Adnoddau
"Y mwyaf parod oedd y rhieni am y materion y gallent eu hwynebu ar ôl mabwysiadu, y mwyaf abl oeddent i brosesu'r profiad ôl-fabwysiadu." – Foli, K. a Thompson, JR. (2004), The Post Adoption Blues, Rodale, UDA.
Rydym yn eich annog trwy gydol y broses fabwysiadu ac ar ei hôl i archwilio cynifer o adnoddau ag y gallwch am heriau ac effeithiau mabwysiadu. Mae'r adran hon o'n gwefan wedi'i churadu i ddarparu ystod amrywiol o lyfrau, podlediadau, sioeau ac adnoddau a fydd, gobeithio, yn eich ysbrydoli, eich annog a'ch herio.
Mae’r adnoddau canlynol wedi bod yn ddefnyddiol i lawer o'n rhieni mabwysiadol a'n gweithwyr cymdeithasol ac rydym bob amser yn chwilio am argymhellion newydd. Rydym yn diweddaru'r dudalen hon yn rheolaidd ac os byddwch yn sylwi nad ydym wedi sôn am lyfr gwych rydych wedi'i ddarllen neu bodlediad diddorol rydych wedi gwrando arno am fabwysiadu, rhowch wybod i ni: contact@adopt4vvc.org
Mae gan CoramBAAF hefyd restr gynhwysfawr o lyfrau ac adnoddau ar gyfer mabwysiadwyr a phlant. Dysgwch fwy drwy fynd i’w gwefan.
Mae Adoption UK yn darparu llyfrgell cyfryngau cymysg sy'n cynnwys mwy na 300 o lyfrau sy'n cynnwys amrywiaeth o faterion mabwysiadu a maethu. Mae'r holl lyfrau’n cael eu benthyca am ddim (ac eithrio costau postio). Gall y llyfrgell fenthyca hyd at dri llyfr / eitem ar un adeg. I gael defnyddio’r llyfrgell, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer aelodaeth a thalu'r ffi gysylltiedig. Ar ôl i chi fewngofnodi i'r wefan byddwch yn gallu pori'r eitemau yn y llyfrgell ac archebu. Bydd botwm oren o'r enw 'benthyg yr eitem hon' yn ymddangos wrth ymyl yr eitem ar ôl i chi glicio arni. Bydd hyn wedyn yn mynd â chi i'r ffurflen cadw: Llyfrgell Fenthyca Adoption UK
Canllawiau a Llyfrau i Oedolion
-
No Matter What - Sally Donovan
Mae 'No Matter What’ yn adrodd hanes y broses fabwysiadu yn y person cyntaf gan fam fabwysiedig. Mae Sally’n adrodd ei hanes hi a’i gŵr Rob a’u taith o ddiagnosis o anffrwythlondeb at eu penderfyniad i fabwysiadu a’u bywyd ar ôl mabwysiadu. Mae hi’n siarad yn onest am yr anawsterau a wynebodd y cwpl wrth fyw ag anffrwythlondeb, penderfynu mabwysiadu a'r broses fabwysiadu. Mae’n llyfr hawr ei ddarllen ond teimladwy, sy’n dangos y broses fabwysiadu a’r materion ffurfio ymlyniad.
-
The Body Keeps the Score – Bessel Van Der Kolk
Mae Bessel Van Der Kolk yn un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd ar straen trawmatig ac mae ei 30 mlynedd o brofiad yn sail i’w lyfr 'the body keeps the score'. Mae'r llyfr yn hygyrch ac yn gipolwg hynod ddiddorol ar sut mae trawma yn llythrennol ail-lunio'r corff a'r ymennydd.
-
Born for Love - Maia Szalavitz a Bruce D. Perry, M.D., PH.D
Mae’r Seiciatrydd Plant Enwog, Bruce D. Perry, a’r newyddiadurwr gwyddoniaeth arobryn, Maia Szalavitz, yn gweu ymchwil a straeon o ymarfer Perry, astudiaethau gwyddonol arloesol ac enghreifftiau hanesyddol at ei gilydd yn eu llyfr 'Born for Love'. Gydol y llyfr hygyrch hwn, mae Perry a Szalavitz yn esbonio sut mae empathi'n datblygu, pam mae'n hanfodol i'n datblygiad i fod yn oedolion iach, a sut mae'n aml yn cael ei fygwth yn y byd modern. Amlinella Perry a Szalavitz sut mae tosturi'n sail i'r rhinweddau sy'n gwneud i gymdeithas weithio, sut mae anawsterau gydag empathi’n ffactorau allweddol mewn problemau cymdeithasol a sut y gall diffyg empathi effeithio ar iechyd corfforol.
-
Related by Adoption – Heidi Argent
Mae 'Related by Adoption' yn llawlyfr ar gyfer aelodau teulu sy’n dod yn berthnasau i blant drwy fabwysiadu e.e. teidiau a neiniau, modrybedd ac ewythrod ac ati. Mae mabwysiadu yn effeithio ar y teulu cyfan, a gall fod gan wahanol aelodau teulu wahanol gwestiynau sy’n benodol i’w rôl ym mywyd y plentyn/plant. Mae’r llawlyfr hwn yn ganllaw da ar gyfer perthnasau a gellir ei ddefnyddio i gyflwyno gwybodaeth ac annog trafodaeth ynglŷn â mabwysiadu y dyddiau hyn yn eich teulu.
-
Flying Solo – Julia Wise
Mae 'Flying Solo' yn adrodd stori fabwysiadu o safbwynt y fam yn y person cyntaf. Drwy gydol y llyfr mae Julia’n rhannu ei phrofiadau o newid o fod yn fenyw sengl sy’n dilyn ei gyrfa i droi’n rhiant mabwysiadol sengl. Mae hi’n siarad am realiti mabwysiadu gyda’i elfennau cadarnhaol a heriol, ymdrin ag agweddau cymdeithasol tuag at rianta fel person sengl, mabwysiadu ei mab a sut newidiodd y mabwysiadu bob agwedd ar ei bywyd. Mae’r llyfr yn hanes agored, gonest ac yn gwneud i bob person sy’n ystyried mabwysiadu feddwl am hyn.
-
The A -Z of Therapeutic Parenting - Sarah Naish
Mae 'The A-Z of Therapeutic Parenting' yn ganllaw hygyrch ac ymarferol ond cynhwysfawr i ymddygiad a hanfodion rhianta therapiwtig. Mae Sarah, ei hun yn rhiant mabwysiadol, yn archwilio dulliau sy'n canolbwyntio ar atebion i amrywiaeth o heriau y gall pobl sy'n gofalu am blant sydd wedi cael profiadau niweidiol eu hwynebu a'r rhesymau pam fod plant yn ymateb iddynt yn y ffordd y maent. Mae'r canllaw yn berthnasol i ofalwyr maeth, mabwysiadwyr, gofalwyr sy'n berthnasau a gweithwyr proffesiynol fel ei gilydd.
-
What to Expect When You’re Adopting – Dr Ian Palmer
Canllaw ffeithiol ydy What to expect when you are adopting, sy’n egluro realiti mabwysiadu a’r hyn y dylech ei ddisgwyl ym mhob cam. Mae’r llyfr hwn yn trafod amrywiaeth o bynciau ac mae’n ddefnyddiol i gyfeirio ato ar wahanol adegau o’r broses fabwysiadu.
-
All You Can Ever Know - Nicole Chung
Yn ei chofiant, mae Nicole Chung yn rhannu hanes ei bywyd fel mabwysiadwr trawshiliol Asiaidd Americanaidd. Mae'r llyfr yn tynnu sylw at bwysigrwydd hunaniaeth ddiwylliannol ac ethnig, hunaniaeth fabwysiadol ac ailgysylltu â'r teulu biolegol.
Mae llyfr Nicole yn tynnu sylw at y tensiwn gydol oes y mae pobl yn ei wynebu rhwng bod yn rhan o'u teulu mabwysiadol ochr yn ochr â cholli eu teulu biolegol. Mae llyfr Nicole yn un sy'n ysgogi'r meddwl ar gyfer rhieni mabwysiadol gan ei fod yn herio dymuniadau a phersbectif rhieni mabwysiadol ac yn tynnu sylw at sut y gallai eu syniadau wrthdaro â safbwynt person mabwysiedig.
Mae'r llyfr yn bwysig i bob rhiant mabwysiadol ddeall y cyfrifoldeb sydd ganddynt i annog a chefnogi eu plentyn i ymgysylltu â’i hanes bywyd, annog cyswllt â'r teulu biolegol a chroesawu a hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol plentyn.
Mae Nicole hefyd yn defnyddio'r llyfr i rannu ei phrofiadau o ddod yn rhiant ei hun a'r cymhlethdodau a brofodd yn hyn o beth fel person mabwysiedig.
Dylid nodi bod mabwysiadu modern yn y DU yn wahanol i fabwysiadu modern yn yr Unol Daleithiau, yn enwedig gan fod llawer llai o blant yn cael eu cyflwyno i'w mabwysiadu gan rieni biolegol, bod llai o blant yn cael eu mabwysiadu'n rhyngwladol a bod gan awdurdodau lleol yn y DU gyfrifoldeb i geisio cyfatebiaeth ethnig a diwylliannol i bob plentyn cyn ystyried mabwysiadu rhynghiliol.
-
Emotional Outbursts: A guide for parents - Cerebra and School of Psychology at University of Birmingham
Yn 2021 creodd yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Birmingham a Cerebra (elusen yn y DU sy'n cefnogi plant â chyflyrau'r ymennydd) ganllaw i rieni am ‘emotional outbursts or meltdowns’: Emotional outbursts: a parents guide
-
The Wild Track - Margaret Reynolds
Mae 'The Wild Track' yn hunangofiant craff iawn am ddod yn fam a ysgrifennwyd gan Margaret Reynolds sy’n awdures, yn academydd, yn feirniad, yn athro Saesneg ac yn ddarlledwraig.
Yn sengl, yng nghanol ei phedwardegau ac ar ôl profi menopos cynnar sydyn penderfynodd Margaret ystyried mabwysiadu plentyn.
Mae'r llyfr nid yn unig yn dilyn ei thaith fabwysiadu, ond mae Margaret hefyd yn tynnu ar ei gwybodaeth academaidd a'i chariad at lenyddiaeth i archwilio sut beth yw bod yn fam / yn rhiant. Er mwyn cyflawni hyn, mae'n cyfeirio at lawer o lyfrau a phethau eraill â’i hysbrydolodd a roes ddyfnder i’w phenderfyniad i ddod yn rhiant.
Yn y gyfrol mae Margaret yn rhannu'n onest ddatgeliad ynglŷn â'i rhywioldeb a gadwyd yn ôl ganddi yn ystod yr asesiad. Oherwydd y diffyg datgelu hwn, yn y pen draw, penderfynodd ei hasiantaeth gyntaf ddod â'i chais i ben. Yna mae'n rhannu ei brwydr ddilynol i ddod o hyd i asiantaeth newydd. Mae Margaret hefyd yn rhannu ei thaith o ddim ond ystyried mabwysiadu babi yn rhyngwladol ar y dechrau i fabwysiadu plentyn chwech oed drwy fabwysiadu domestig maes o law.
Ysgrifennwyd y penodau olaf gan ferch Margaret. Ynddynt mae’n rhannu ei hatgofion am ei phlentyndod gan gynnwys y diwrnod yr aeth i fyw gyda Margaret a’r achos llys a ddilynodd hynny.
Mae'r llyfr yn tynnu sylw at themâu allweddol fel pwysigrwydd; deall cymhellion rhywun i ddod yn rhiant, ennill profiad o wahanol fathau o ofal plant cyn mabwysiadu, cymorth teuluol a chymunedol a'r cynllunio manwl ar gyfer cyflwyniadau a phontio.
-
The Primal Wound - Nancy Verrier
Yn ei llyfr, mae Nancy Verrier, seicotherapydd, a mam fabwysiadol, yn egluro ei damcaniaeth o’r clwyf sylfaenol, sef y trawma y mae plentyn yn ei ddioddef wrth gael ei wahanu oddi wrth ei riant/rhieni biolegol. Mae'r holl blant sydd wedi'u lleoli i'w mabwysiadu wedi wynebu colled a gwahanu oddi wrth eu teulu biolegol a bydd hyn yn effeithio ar bob plentyn.
Yn ei llyfr, mae Verrier yn archwilio'r effeithiau gydol oes y gall gwahanu eu cael ar bobl fabwysiedig. Mae'n archwilio sut mae'r golled hon yn effeithio ar eu datblygiad a'u hunaniaeth, gan ategu hyn gyda gwybodaeth am seicoleg cyn ac ôl-geni, ymlyniad, bondio, ac effeithiau colled.
Gall y llyfr fod yn brofiad anodd a phoenus i’w ddarllen i bawb sy'n ymwneud â mabwysiadu a gweithwyr proffesiynol oherwydd yr emosiynau y mae'n eu hysgogi. Fodd bynnag, mae'n llyfr craff sy'n cydnabod, yn deall ac yn dilysu'r trawma o wahanu.
Mae'r llyfr yn cynnig dilysiad i bobl fabwysiedig am eu teimladau, eu dealltwriaeth o deimladau a’r ansicrwydd a achoswyd gan fabwysiadu, esboniadau am eu hymddygiad a'u hemosiynau, a chyd-destun i leoli a gwneud synnwyr o'u profiadau. Mae'r llyfr hefyd yn mynegi profiadau rhieni biolegol sydd wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu plentyn. Yn y pen draw, mae hyn hefyd yn rhoi dealltwriaeth ac arweiniad amhrisiadwy i rieni sy’n mabwysiadu.
-
The Post-Adoption Blues - Karen J. Foli a John R. Thompson M.D.
Yn eu llyfr, mae Karen J. Foli, nyrs gofrestredig, a'i gŵr, John R. Thompson, seiciatrydd, yn archwilio Syndrom Iselder Ôl-fabwysiadu. Trwy gydol y llyfr mae Foli a Thompson yn tynnu ar eu profiad eu hunain fel rhieni mabwysiadol a phrofiadau teuluoedd a gweithwyr proffesiynol mabwysiadol y gwnaethant eu cyfweld.
Mae llawer o rieni mabwysiadol yn dechrau'r broses gyda chymysgedd o emosiynau ac mae’r rhain yn esblygu'n barhaus wrth iddynt drawsnewid yn rhieni mabwysiadol.
Yn ymchwil Foli a Thompson, nodwyd y gallai rhieni mabwysiadol yn aml deimlo bod angen iddynt guddio cymhlethdodau eu hemosiynau a'u profiadau o fabwysiadu oddi wrth ffrindiau, teulu a gweithwyr proffesiynol a gall hyn arwain at broblemau gyda'u hiechyd meddwl a'u perthnasoedd.
Drwy'r llyfr mae Foli a Thompson yn cynnig y dealltwriaeth, y gefnogaeth a'r atebion pendant sydd eu hangen arnynt i oresgyn teimladau o iselder ar ôl mabwysiadu.
-
We are Family – Susan Golombok
Yn ei llyfr, mae'r Athro Susan Golombok yn taflu goleuni ar ddegawdau o ymchwil i strwythurau a pherthnasoedd teuluol. Mae ymchwil Golombok yn canolbwyntio'n bennaf ar fywydau teuluoedd LHDTCRh+ ers y 1970au hyd heddiw. Trwy gydol y llyfr mae hi'n rhannu tapestri o straeon personol teuluoedd sydd wedi llywio ei hymchwil. Mae'r llyfr yn archwilio cymhlethdodau canfyddiadau cymdeithasau o deulu, ehangu llwybrau i greu teulu gan gynnwys triniaeth ffrwythlondeb, benthyg croth, mabwysiadu a maethu a sut mae teuluoedd yn llywio hanes bywyd. Mae Golombok hefyd yn wynebu naratifau niweidiol sydd wedi treiddio trwy'r gymdeithas yn uniongyrchol gyda realaeth rymus ei hymchwil hi a'i chydweithiwr.
-
Reuben's Story – Joanna Clifton
Ysgrifennwyd stori Reuben o safbwynt Reuben, bachgen naw oed sy'n rhannu ei atgofion o fyw gyda'i deulu biolegol, ei deulu maeth, a'i riant mabwysiadol. Mae'n sôn am y trawsnewidiadau amrywiol y mae wedi'u profi a byw gydag amrywiaeth o bobl wahanol nes iddo gael ei leoliad olaf gyda'i riant mabwysiadol unigol.
Mae'r llyfr yn rhoi mwy o fewnwelediad i ddarllenwyr i rai o brofiadau a phrosesau meddwl plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
-
-
-
-
Podlediadau i Oedolion
-
Tom Cox on Being a Gay, Adoptive Dad - Podlediad Not Another Mummy, Pennod Byw gyda F&F yn Tesco, Cyfres 4, Medi 2019
Ar y cyd â F&F yn Tecso, mae Alison Perry o bodlediad ‘Not Another Mummy’ yn cyfweld â Tom Cox, tad mabwysiadol Kai ac eiriolwr mabwysiadu sy’n dogfenu bywyd ei deulu ar Instagram. Mae Alison a Tom yn trafod y broses, y broses baru, paneli, cwrdd â’r rhieni biolegol, rôl gofalwyr maeth, cyswllt blwch llythyrau, cyflwyniadau a’r lleoliad a setlo mewn:
Tom Cox
-
Podlediad Dad Cave
Mae podlediad Cristnogol a seiliwyd ar ffydd Care for the Family, sef ‘The Dad Cave’ yn gweld y tadau, Mark a Stephen yn gwahodd amrywiaeth o dadau i siarad am eu profiadau o fod yn rhieni.
-
Two Good Mums
Mae 'Two Good Mums' yn gydweithrediad rhwng Laura, sy’n awdur ac yn fam am y tro cyntaf, a man a fabwysiadodd, Peggy. Trwy eu llwyfannau digidol gan gynnwys blog, llwyfannau cymdeithasol, a phodlediadau, maent yn rhannu eu profiadau o gyswllt agored ac am dwf eu cyfeillgarwch ochr yn ochr â’r profiad maent yn ei rannu o fod yn famau i’w plant.
Mae Laura hefyd wedi rhannu ei phrofiadau personol ei hun fel rhiant cyntaf y mabwysiadwyd ei phlant trwy gyfrwng ei llyfr, Baby of Mine: A Birthmothers Journey Through Forced Adoption
Mae podlediad 'two good mums' ar gael ar draws y prif lwyfannau podledu: Two good mums
Ffilmiau, Cyfres a Rhaglenni Dogfen i Oedolion
-
Coram
Mae
CoramBAAF yn elusen sy’n gweithio â rhieni a phlant mabwysiedig yn ogystal â gweithwyr proffesiynol. Mae eu sianel Youtube yn amlygu peth o’r gwaith y maent yn ei wneud, gan gynnwys gweithio gyda phlant a phobl ifanc wedi eu mabwysiadu a phobl sydd eisiau mabwysiadu:
Coram Youtube
-
Adoption UK - Youtube
Elusen sy’n gweithio gyda rhieni a phlant mabwysiedig ydy
Adoption UK. Mae eu sianel Youtube yn cynnwys cyfweliadau difyr o The One Show y BBC:
Adoption UK Youtube
-
ReMoved
Mae ReMoved yn ffilm fer sy’n dilyn taith emosiynol merch naw oed, Zoe sy’n gorfod gadael ei chartref genedigol ac yn cael ei rhoi yn y system gofal maeth (UDA). Yn yr ail ddarn ‘Remember My Story’, mae Zoe yn mynd drwy system y llysoedd, bywyd mewn cartrefi maeth, ymdrechion ei mam fiolegol i wella ei bywyd, colli ei brawd a’i dyfodol. Er bod maethu a mabwysiadu yn America yn wahanol iawn i system y DU. Mae’r ffilmiau hyn yn pwysleisio rhywfaint o’r trafferthion emosiynol y mae plant yn eu hwynebu wrth fynd i’r system gofal. Mae’r ffilmiau yn edrych ar sut y gall y profiadau hyn effeithio ar ymddygiad y plant a sut y maent yn canfod y byd o’u hamgylch yn ogystal â pham y mae rhianta therapiwtig a chymorth mor bwysig: ReMoved Series
-
Instant Family
Mae Instant Family yn ffilm gomedi gyda Mark Wahlberg a Rose Byrne sy’n chwarae’r pâr priod Pete ac Ellie Wagner, sy’n maethu ac wedyn yn mabwysiadu tri phlentyn. Mae’r cyfarwyddwr, Sean Anders yn rhiant mabwysiadol ac ysgrifennodd y stori ar sail rhai o brofiadau ei deulu ei hun. Mae’r ffilm yn amlygu’r angen am faethu a rhieni mabwysiadol yn rhyngwladol. Er bod y broses fabwysiadu yn wahanol i’r mabwysiadu yn America, mae’r ffilm yn wych i’r rheiny sy’n ceisio magu eu dealltwriaeth o’r agweddau cadarnhaol ar faethu plant a mabwysiadu ochr yn ochr â’r trafferthion wrth addasu i fywyd teuluol gyda’i gilydd.
-
Lion
Mae Lion yn ffilm bywgraffiad wedi ei seilio ar y llyfr ffeithiol ‘A Long Way Home’ a ysgrifennwyd gan Saroo Brierley. Mae’r ffilm yn dilyn hanes Saroo, bachgen pump oed sy’n cael ei wahanu o’i frawd ar strydoedd Calcutta. Mae Saroo yn cael ei roi mewn cartref plant cannoedd o filltiroedd i ffwrdd ac yn cael ei fabwysiadu gan gwpl sy’n byw yn Awstralia. Mae’r ffilm yn dilyn taith Saroo i Awstralia, ymgartrefu mewn teulu a diwylliant newydd. Mae rhieni mabwysiadol Saroo yn mabwysiadu plentyn arall y mae trawma wedi dylanwadu’n sylweddol ar ei ymddygiad ac mae’r ffilm yn edrych ar sut y mae hyn yn effeithio ar ddynameg y teulu bellach. Yn ystod ei ugeiniau mae Saroo yn dechrau ceisio dod o hyd i’w fam fiolegol ac yn y pen draw mae’n dod o hyd i’w dref frodorol. Mae’r ffilm yn arddangos colled, galar, trawma, ymddygiad, teulu, cariad, cymod a’r angen sylfaenol sydd gan berson i ddeall hanes ei fywyd.
-
Trying – Apple TV
Cyfres gomedi wreiddiol gan Apple TV yw Trying, a grëwyd gan Andy Wolton (cyfarwyddwr a pherson a fabwysiadwyd). Mae'r gyfres yn dilyn stori Jason a Nikki, cwpl yng nghanol eu 30au sydd wedi bod yn ceisio beichiogi drwy driniaeth ffrwythlondeb. Mae'r gyfres yn dilyn eu taith o 'geisio beichiogi' i ystyried mabwysiadu.
Mae rhai elfennau o'r gyfres wedi eu creu er adloniant y gwylwyr felly, mae rhai pethau ynglŷn â'r broses yn anghywir, fodd bynnag, mae'r rhaglen yn cynnig persbectif ar ffrwythlondeb, teulu a mabwysiadu sy'n aml yn ysgafn ond eto, yn emosiynol ymwybodol: Trying
-
Addicted: Last Chance Mums – Ar gael ar YouTube (a gynhyrchwyd yn wreiddiol gan BBC Panorama)
Mae'r rhaglen ddogfen hon yn rhoi cipolwg dadlennol, sy'n herio rhagdybiaethau, ar brofiadau mamau biolegol sy'n byw gyda'u babanod mewn lleoliad preswyl i famau sy'n gwella o gaethiwed i sylweddau. Mae lleoliadau preswyl i rieni a babanod yn amgylcheddau cefnogol a ddarperir fel arfer mewn cyfleuster a arweinir gan staff neu leoliad maethu rhiant a baban.
Yn anffodus, mae llawer o blant yn y DU sydd wedi'u lleoli i'w mabwysiadu wedi bod yn agored i sylweddau yn y groth ac/neu yn eu hamgylchedd cartref ac efallai bod llawer ohonynt wedi byw, am gyfnod, mewn lleoliad fel yr un a ddangosir yn y rhaglen ddogfen hon: Addicted: Last Chance Mums
Mae'r rhaglen ddogfen yn cynnwys delweddau o ddefnyddio Methadone a chyfeiriad at gam-drin rhywiol y gallai achosi gofid neu sbarduno atgofion ymhlith rhai gwylwyr.
-
Split Up In Care: Life Without Siblings - BBC iPlayer
Cafodd Ashley John-Baptiste, gohebydd a chyflwynydd y BBC ei fagu mewn gofal maeth. Credai Ashley ei fod yn unig blentyn tan un diwrnod, ac yntau yn ei 20au canol, cysylltodd dyn gydag e drwy'r cyfryngau cymdeithasol gan rannu mai ef oedd ei frawd.
Yn y rhaglen ddogfen hon mae Ashley yn rhannu ei stori ei hun ac yn rhoi llwyfan i leisiau plant, pobl ifanc ac oedolion sydd â phrofiad o fod mewn gofal ochr yn ochr â gweithwyr cymdeithasol a rhieni maeth.
Mae'r rhaglen ddogfen yn rhannu cipolwg teimladwy ar glymau’r berthynas sydd rhwng brodyr a chwiorydd a sut a pham y dylid meithrin y perthnasoedd hyn: Split up in care: life without siblings
-
Cynhadledd ASAFf Partneriaeth Diogelu Plant Sheffield 2021
Ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth ASAFf Rhyngwladol 2021 cynhaliodd Partneriaeth Diogelu Plant Sheffield gynhadledd ASAFf.
Aeth y gynhadledd â’r cyfranogwyr ar daith ASAFf, atal, diagnosis a chymorth i bobl a gafodd ddiagnosis o ASAFf a'u teuluoedd, gydag amrywiaeth o siaradwyr gan gynnwys pobl sydd â diagnosis o ASAFf, rhieni a gofalwyr pobl sydd â diagnosis o ASAFf, pobl o sefydliadau sy'n cefnogi teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan ASAFf, y Grŵp Seneddol Trawsbleidiol ar ASAFf, Dr Raja Mukherjee a Dr Cassie Jackson.
-
This is Us – Amazon Prime
Mae This is Us yn dilyn bywydau'r brodyr a chwiorydd Kevin, Kate, a Randal a'u rhieni. Mae eu rhieni Jack a Rebecca yn feichiog gyda thripledi i ddechrau a phan fydd un o'r tripledi'n farw-anedig, maent yn penderfynu mabwysiadu Randle, bachgen bach a ddaeth i'r ysbyty y diwrnod hwnnw fel baban a adawyd.
Mae'r stori'n dilyn themâu hunaniaeth, mabwysiadu trawshiliol, ailgysylltu teulu biolegol, profiad y triawd mabwysiadu (plentyn, teulu biolegol a theulu mabwysiadol) a bod yn frodyr a chwiorydd drwy fabwysiadu.
Mae'r gyfres yn cynnwys cyfeiriadau at wahaniaethu ar sail hil, dibyniaeth, colli babanod, colli teulu a salwch y gallai rhai gwylwyr eu cael yn ofidus a / neu'n sbardun: This Is Us
-
Katie Price: What Harvey Did Next - BBC iPlayer
Mae'r rhaglen ddogfen yn dilyn Harvey Price wrth iddo gychwyn ar daith anodd y mae miloedd o bobl ifanc yn ei wneud bob blwyddyn, wrth fynd i'r coleg. Mae'r rhaglen ddogfen yn tynnu sylw at brofiad Harvey, ei fam, Katie Price a'i deulu estynedig wrth iddo symud dair awr oddi cartref i National Star College, coleg arbenigol ar gyfer pobl sy'n byw gydag anghenion / anableddau ychwanegol: Katie Price: What Harvey Did Next
-
As We See It – Amazon Prime
Mae'r gyfres lawn hon yn dilyn bywydau tri oedolyn sy'n byw gydag Awtistiaeth wrth iddynt wynebu'r heriau o fyw'n annibynnol ac archwilio a chynnal perthnasoedd.
Ychwanegir dyfnder at y stori gan fod y prif rolau i gyd yn cael eu chwarae gan actorion sydd ar y sbectrwm eu hunain ac mae'r gyfres yn herio canfyddiadau, stereoteipiau ac yn rhoi cipolwg ingol ar brofiadau oedolion sy'n byw gydag Awtistiaeth a'r rhai sy'n eu cefnogi: As We See It
-
Joe Swash: Teens in Care – BBC iPlayer
Yn y rhaglen ddogfen hon, mae’r actor, cyflwynydd, awdur a thad, Joe Swash yn tynnu sylw at brofiadau byw pobl ifanc yn eu harddegau sydd mewn gofal ac oedolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n byw yn Lloegr. Mae gan Joe gysylltiad personol â'r system ofal gan fod ei fam, Kiffy wedi bod yn ofalwr maeth sengl ers pymtheng mlynedd. I ddechrau, maethodd Kiffy ddau o blant; un a gafodd ei fabwysiadu ac un arall, Daniel, sydd wedi byw gyda hi ers ei fod yn saith oed ac sydd newydd ddechrau yn y brifysgol: Joe Swash: Teens in Care
-
Atypical – Netflix
Mae'r ddrama hon yn dilyn bywyd Sam, merch 18 oed sydd ar y sbectrwm awtistiaeth wrth iddo benderfynu ei bod yn bryd chwilio am fwy o annibyniaeth. Mae'r sioe yn tynnu sylw nid yn unig at daith Sam ond hefyd taith ei deulu wrth iddynt addasu i ddymuniad Sam i ddod yn fwy annibynnol. Er nad yw'r stori'n seiliedig ar fabwysiadu, drwy gydol eu plentyndod, gellir rhoi diagnosis i plant o anghenion ychwanegol gan gynnwys Awtistiaeth. Felly, mae'n bwysig i fabwysiadwyr baratoi eu hunain drwy ddysgu mwy am anghenion ychwanegol.
-
Our Lives: Searching for My Other Mam, Cyfres Chwech – BBC iPlayer
Er ei fod yn dod o’r Gogledd, mae Gerallt wastad wedi dweud ei fod yn teimlo'n wahanol i'w gyfoedion am ei fod o dras ddeuol, wedi ei eni yn Lloegr a’i fabwysiadu gan ei fam wen, sy’n Gymraes Gymraeg. Bellach (2022), bron hanner can mlynedd ers ei fabwysiadu, mae Gerallt yn dechrau'r chwilio i ddod o hyd i'w rieni biolegol a'i dreftadaeth ddu nad yw byth wedi ei adnabod, gyda Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru. Mae'r rhaglen ddogfen hon yn amlygu pwysigrwydd perthyn, dod o hyd i hunaniaeth, a phwysigrwydd treftadaeth ddiwylliannol: Our Lives, Cyfres Chwech, Searching for My Other Mam – BBC iPlayer
Mae'r rhaglen ddogfen yn cynnwys gwybodaeth am farwolaeth rhiant biolegol allai beri gofid i rai gwylwyr neu fod yn sbardun iddynt.
-
Michael Sheen: Codi'r Llen ar y System Gofal – BBC iPlayer
Yn y rhaglen ddogfen hon mae Michael Sheen yn tynnu sylw at yr heriau sy'n wynebu Cymry ifanc mewn gofal maeth. Mae gan lawer o blant yn system ofal y DU gynllun gofal o ofal maeth hirdymor yn lle dychwelyd i'w teuluoedd biolegol neu gael eu cyfeirio i'w mabwysiadu. Weithiau mae gan blant mabwysiedig frodyr a chwiorydd y mae eu cynllun gofal yn ofal maeth hirdymor.
Yn aml, nid yw’r glasoed nac oedolion ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn derbyn yr un sefydlogrwydd na’r gefnogaeth ariannol, addysgol, cymdeithasol, emosiynol ac ati, y mae angen i bob person ei gael i fod yn oedolyn llewyrchus. Mae'n hysbys hefyd bod hyn yn creu cylch rhwng y cenedlaethau lle gallai oedolion sydd â phrofiad o fod mewn gofal weld eu plant biolegol yn cael eu symud am resymau economaidd-gymdeithasol. Mae hyn yn arbennig o bwysig i rieni mabwysiadol amgyffred gan y gallai eu plentyn fod wedi profi'r cylch hwn sydd yn y pen draw wedi arwain at fabwysiadu. Mae'r rhaglen hon yn tynnu sylw at bwysigrwydd bod pob plentyn yn cael sefydlogrwydd waeth beth fo'u math o leoliad a phwysigrwydd cyswllt parhaus gyda brodyr a chwiorydd a theulu biolegol: Michael Sheen: Codi'r Llen ar y System Gofal – BBC iPlayer
-
Sam Thompson: Is this ADHD? – Channel 4
Mae seren Made in Chelsea a Tik Tok Prydain, Sam Thompson wedi sylwi ei fod yn profi diffyg sylw, anhrefn, a gorfywiogrwydd. Yn y rhaglen ddogfen hon mae Sam yn mynd ar ymchwiliad i ddarganfod a oes ganddo ddiagnosis o Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADCG). Mae llawer o blant a phobl ifanc yn y DU yn aros am gyfnodau estynedig o amser i gael diagnosis, ac i lawer o oedolion a anwyd cyn y ddealltwriaeth fanylach o ADCG, efallai eu bod ond yn ddiweddar yn derbyn neu'n archwilio diagnosis ffurfiol.
Mae'r rhaglen ddogfen hon yn rhoi cipolwg ar brofiadau byw pobl sydd ag ADCG ac yn gweithio i chwalu stigma: Sam Thompson: Is this ADHD?
-
Out of the Shadows: Born from Rape – BBC iPlayer
Yn y rhaglen ddogfen hon mae Sammy Woodhouse, un o'r dioddefwyr meithrin perthynas amhriodol Rotherham, yn mynd ar daith i gwrdd â mamau a phlant eraill a anwyd o dreisio. Ar hyd a lled y wlad, mae hi'n darganfod pobl ryfeddol gyda straeon torcalonnus am gariad a phoen sydd wedi aros yn gudd ers degawdau.
Yn aml gall pynciau trais rhywiol a llosgach ysgogi ymateb emosiynol cryf neu ddatgysylltiad o fewn y cyhoedd, fodd bynnag, i rieni sydd wedi cael eu treisio a'u plant dyma'u realiti byw, ac oherwydd y tabŵ maent yn byw gyda stigmateiddio, cywilydd, ac ofn siarad.
Er bod llawer o blant yr effeithir arnynt gan yr amgylchiadau hyn yn parhau i fod yng ngofal eu rhiant geni neu deulu estynedig, i rai gall yr amgylchiadau fod yn ffactor sy'n cyfrannu at ddod yn brofiad gofal: Out of the Shadows: Born from Rape
-
Kids – Channel 4
Mae'r rhaglen ddogfen hon yn archwilio bywydau pobl ifanc yng ngofal Gwasanaethau Plant Coventry, eu teuluoedd a'r gweithwyr cymdeithasol sy'n rhan o'u bywydau.
Fel arfer, mae pobl sydd â phrofiad gofal a'u teuluoedd wedi profi cyfuniad o ffactorau sydd wedi arwain at ymwneud yn y pen draw â'r gwasanaethau cymdeithasol a/neu'r heddlu. Mae'r rhaglen ddogfen hon yn tynnu sylw at gymhlethdodau eu profiadau bywyd, yn meithrin empathi i bawb sy'n gysylltiedig, ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd stori bywyd, hunaniaeth, perthnasoedd diogel a sefydlog, a pherthyn: Kids
-
Ellie Simmonds: Dod o hyd i'm Teulu Cyfrinachol - ITVX
Rhaglen ddogfen deimladwy a thorcalonnus lle mae cyn Nofiwr Paralympaidd Prydeinig a pherson mabwysiedig, Ellie Simmonds yn archwilio’n onest ei chofnodion geni, ei diagnosis o Achondroplasia a’i mabwysiadu gyda chefnogaeth ei theulu, Penny, Glesni, ac Gwasanaethau Cymdeithasol Essex (AdoptEast).
Yn ystod y rhaglen ddogfen mae’n ailgysylltu â’i theuluoedd maeth a geni a hefyd yn cyfarfod â theulu sy’n magu plentyn sydd ag anghenion meddygol a Jono Lancaster a gafodd ei roi i’w fabwysiadu ar ôl cael ei adael yn yr ysbyty ar ôl genedigaeth; yn debygol o fod yn gysylltiedig â'i ddiagnosis meddygol. Mae'r rhaglen ddogfen yn siarad yn onest am yr heriau a wynebodd y gwasanaethau mabwysiadu, ac yn parhau i wynebu, i ddod o hyd i rieni i blant sy'n byw ag anableddau a/neu anghenion ychwanegol: Ellie Simmonds: Dod o hyd i'm Teulu Cyfrinachol
Gall y rhaglen ddogfen hon fod yn sbardun i'r rhai sy'n archwilio eu cofnodion geni a/neu'n byw ag anabledd a/neu anghenion ychwanegol a'u teuluoedd.
-
The Stories we Bring with Us: Messages for Adoptive Parents from Adopted People – PAC-UK
Yn y ffilm fer hon, mae pobl fabwysiedig yn rhannu eu meddyliau, eu teimladau a'u profiadau o fod yn berson mabwysiedig. Mae'r ffilm yn werthfawr i rieni fabwysiadol, i bobl sy'n ystyried mabwysiadu, y rhai sydd â chysylltiad â pherson mabwysiedig a gweithwyr proffesiynol.
Comisiynwyd PAC-UK i greu'r ffilm fer hon gan y Tîm Strategaeth Fabwysiadu Genedlaethol drwy'r Rhaglen Arweinwyr Asiantaethau Mabwysiadu Rhanbarthol, a ariennir gan Adran Addysg y DU: The Stories we Bring with Us: Messages for Adoptive Parents from Adopted People
-
Lost Boys and Fairies - BBC iPlayer
Mae'r gyfres ddrama tair rhan hon, a ysgrifennwyd gan Daf James, rhiant mabwysiadol, hoyw, o Gymru yn dilyn bywydau Gabriel ac Andy, cwpl gwrywaidd o Gymru sy'n dod yn rhieni trwy fabwysiadu. Mae'r gyfres wedi'i lleoli yng Nghaerdydd (ein tref enedigol) ac mae'n bortread agos, cyfoethog a chywir o fabwysiadu yng Nghymru: Lost Boys and Fairies
-
Contact - Research in Practice
Yn y gyfres hon o ffilmiau, mae pobl sydd wedi cael eu mabwysiadu, rhieni biolegol a rhieni mabwysiadol yn trafod cyswllt ôl-fabwysiadu a phwysigrwydd bod yn agored a thryloyw: Contact
-
Adoption is not a Line in the Sand: Adopted Children and Identity - Adoption Focus
Yn y ffilm hon mae pobl sydd wedi cael eu mabwysiadu yn trafod pwysigrwydd gwaith taith bywyd a chael gafael ar wybodaeth am eu teulu biolegol: Adoption is not a Line in the Sand: Adopted Children and Identity - Adoption Focus
-
Daughters – Netflix
Mae'r rhaglen ddogfen hon yn archwiliad digyfaddawd o’r ffordd mae carcharu yn effeithio ar deuluoedd. Mae'r rhaglen ddogfen yn tynnu sylw at bwysigrwydd plant yn cysylltu â'u tadau, eu treftadaeth a'u hunaniaeth. Mae'r rhaglen yn tynnu sylw at yr angen i dadau gael eu hannog a'u harfogi i ymgysylltu â'u plant a phwysigrwydd tadau am oes: Daughters
-
-
-
Blogiau a Flogiau i Oedolion
-
Aimee Vlogs - Aimee
Mae Aimee yn fam fabwysiadol sy'n trafod ei phrofiadau maethu a mabwysiadu dau blentyn yn system y DU. Mae hi'n sôn am y broses fabwysiadu, cysylltu â'r rhieni biolegol a'r diwrnod dathlu a bywyd mam yn gyffredinol.
-
Mumaduke Designs
Crëwyd Mumaduke Designs gan fam fabwysiadol tua blwyddyn ar ôl iddi fabwysiadu ei mab. Ar y pryd roedd hi'n ceisio dod o hyd i gerdyn addas ar gyfer cyswllt blwch llythyrau ac yn y pen draw penderfynodd fynd adref i wneud ei cherdyn ei hun. Ers hynny mae hi wedi creu siop sy'n arbenigo mewn eitemau sy'n dathlu mabwysiadu ynghyd â blog a phresenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol lle mae'n sôn am ei phrofiadau o fod yn rhiant drwy fabwysiadu.
-
Rosemary Lucas
Mae Rosemary Lucas, awdur a mam fabwysiadol, yn defnyddio ei blog a'i phresenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol i siarad am ei phrofiadau o fod yn rhiant trwy fabwysiadu.
Mae llyfr cyntaf Rosemary, The Family Fairies, yn llawn rhigymau plant sy’n esbonio’r broses fabwysiadu mewn ffordd ddifyr a hwylus gyda darluniadau lliwgar ac mae’n dod â’r profiad o fabwysiadu yn fyw. Mae’r llyfr yn seiliedig ar daith fabwysiadu Rosemary ac yn adrodd hanes mam a thad sydd eisiau cael teulu ac sy’n gofyn am help gan ddwy ‘dylwythen deg deuluol‘, sef dau weithiwr cymdeithasol. Mae Rosemary yn gobeithio y bydd y llyfr hwn yn un o gyfres o lyfrau a fydd yn helpu plant ac oedolion i ddeall mabwysiadu mewn ffordd gliriach ac yn ennyn diddordeb ehangach mewn mabwysiadu fel llwybr i ddechrau neu ehangu teulu.
-
Jeena Wilder
Mae mam Haitiaidd-Americanaidd, Jenna Wilder, yn dogfennu’r profiad mae hi a’i gŵr, Drue, wedi’i gael fel rhieni i blant mabwysiedig a biolegol. Mae hi'n tynnu sylw at brofiadau eu teulu o briodas rynghiliol, mabwysiadu trawshiliol, addysg gartref, rhianta, rôl ei ffydd (Mormoniaeth) yn ei bywyd ac wrth fod yn fam.
-
Two Good Mums
Mae Two Good Mums yn gydweithrediad rhwng Laura, sy’n awdur ac yn fam am y tro cyntaf, a man a fabwysiadodd, Peggy. Trwy eu llwyfannau digidol gan gynnwys blog, llwyfannau cymdeithasol, a phodlediadau, maent yn rhannu eu profiadau o gyswllt agored ac am dwf eu cyfeillgarwch ochr yn ochr â’r profiad maent yn ei rannu o fod yn famau i’w plant.
Mae Laura hefyd wedi rhannu ei phrofiadau personol ei hun fel rhiant cyntaf y mabwysiadwyd ei phlant trwy gyfrwng ei llyfr, Baby of Mine: A Birthmothers Journey Through Forced Adoption
-
Damian Kerlin
Mae’r ysgrifennwr a’r newyddiadurwr Damien a'i bartner, Andrew yn rhannu eu profiadau ac yn codi ymwybyddiaeth o fabwysiadu fel tadau mabwysiadol, hoyw sy'n byw yng Nghymru.
-
BabyCentre.co.uk
-
Addysgu Ella
Mae rhiant mabwysiadol, Claire yn defnyddio ei thudalen Instagram i godi ymwybyddiaeth o addysg gartref, Awtistiaeth, ADCG (ADHD), Mabwysiadu a Thrawma. Bellach mae gan Claire a'i gwraig ddau o blant drwy fabwysiadu: @educatingella
-
2starfishsolo
Yn rhiant mabwysiadol unigol Gymraeg i ddau, mae Sarah yn defnyddio ei thudalen Instagram i godi ymwybyddiaeth o frodyr a chwiorydd rhianta mabwysiadol unigol: @2starfishsolo
-
Teulu bach ni
Mae’r rhieni mabwysiadol, Gwawr a Catrin yn defnyddio'u tudalen Instagram i godi ymwybyddiaeth o fabwysiadu efeilliaid fel cwpl benywaidd sy'n siarad Cymraeg. Cymraeg yn gyntaf yw’r cynnwys, yna dwyieithog: @teulu_bach_ni
-
Mam fiolegol ger y môr
Mae'r fam fiolegol, Nina yn defnyddio ei thudalen Instagram i godi ymwybyddiaeth o'r cymhlethdodau o fod yn rhiant biolegol y tynnwyd ei phlant cyntaf oddi arni a’u gosod i’w mabwysiadu ond y mae ei phlentyn biolegol dilynol wedi parhau i fyw gyda hi. Mae Nina yn siarad yn onest am lywio emosiynau yn ymwneud â'i hamgylchiadau a chyswllt parhaus â'r plant nad ydynt yn byw gyda hi: @birthmumbythesea
-
Sgwrsio am Fabwysiadu
Tudalen Instagram sy'n cael ei chynnal gan rai a fabwysiadwyd i godi ymwybyddiaeth o’u profiadau o gael eu mabwysiadu: Adoption Chatter
-
-
-
-
-
Gwefannau Defnyddiol i Oedoli
-
Adoption UK
Mae Adoption UK yn elusen sy'n darparu cymorth, cymuned ac eiriolaeth i bawb sy'n magu plant neu'n cefnogi plant nad ydynt yn gallu byw gyda'u rhieni biolegol. Mae hefyd yn rhedeg llinell gymorth y gall darpar fabwysiadwyr ei defnyddio o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10am-2.30pm, ac mae ganddynt wybodaeth y gallant ei hanfon ar gais drwy e-bost.
-
Wedi Mabwysiadu
Cymorth ar gyfer pobl sydd wedi eu mabwysiadu a’u teuluoedd: After Adoption
-
Llywodraeth y Du
Mae adran bwrpasol ar wefan Llywodraeth y DU sy’n cyfeirio’n arbennig at fabwysiadu. Mae’n ymdrin â themâu megis mabwysiadu domestig a thramor, mabwysiadu gan lys rieni a gwybodaeth am yr elfennau cyfreithiol a’r broses asesu.
-
Llywodraeth Cymru
Mae gan Lywodraeth Cymru adran o'u gwefan sy'n benodol ar gyfer cyngor ar rianta: Rhianta. Rhowch amser iddo. Mae'r safle yn darparu adnoddau, cyfryngau ac astudiaethau achos i gynorthwyo rhieni i 'annog ymddygiad cadarnhaol, magu hyder eich plentyn a chefnogi ei ddatblygiad'.
-
SNAP Cymru
Mae SNAP Cymru yn cynnig gwybodaeth, cyngor, hyfforddiant a chymorth i rieni, plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig neu anableddau neu a allai fod felly: SNAP Cymru
-
FASD Awareness
Mae FASD Awareness yn sefydliad elusennol sydd â gweledigaeth glir: "Lle mae pawb yn ymwybodol o beryglon defnyddio alcohol yn ystod beichiogrwydd a bod mamau'n cael eu cefnogi i gadw'n iach ac yn gryf yn ystod beichiogrwydd, ac mae unigolion sy'n byw gydag Anhwylderau'r Sbectrwm Alcohol yn y Ffetws (ASAFf/FASD) yn cael eu nodi, eu cydnabod, eu gwerthfawrogi a'u cefnogi": FASD Awareness
-
FASD UK Alliance
Mae FASD UK Alliance yn gasgliad o grwpiau ac unigolion o bob rhan o'r Deyrnas Gyfunol sy'n unedig gyda'i gilydd i weld newid cymdeithasol cadarnhaol i'r rhai sydd ag Anhwylderau Sbectrwm Alcohol y Ffetws (ASAFf/
FASD):
FASD UK Alliance
-
Care for the Family
Mae Care for the Family yn elusen sy'n seiliedig ar y ffydd Gristnogol ledled y DU sy'n rhoi cyngor a chymorth teuluol a rhianta i deuluoedd o bob ffydd neu ddim: Care for the Family
-
Maethu Cymru
Maethu Cymru yw ymbarél Llywodraeth Cymru ar gyfer holl wasanaethau maethu awdurdodau lleol ledled Cymru: Maethu Cymru
-
Best Beginnings:
Mae Best Beginnings yn elusen yn y DU sy'n gweithio i gefnogi pob rhiant a rhoddwr gofal trwy gydol beichiogrwydd a hyd at ben-blwydd cyntaf y plentyn. Mae'r elusen yn defnyddio dulliau cyd-greu, tystiolaeth, digidol a ffilm i hysbysu a grymuso rhieni a gofalwyr o bob cefndir i ofalu am eu hiechyd meddwl a chorfforol ac i wneud y gorau o ddatblygiad corfforol, meddyliol ac emosiynol hirdymor eu plant.
Mae Best Beginnings yn fwyaf adnabyddus am ei Ap Baby Buddy arobryn ac sy'n cael ei gymeradwyo gan y GIG a llawer o Golegau Brenhinol. Mae Baby Buddy yn darparu cynnwys ysgrifenedig a ffilm sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac offer hunan-ofal i helpu rhieni i feithrin eu gwybodaeth a'u hyder. Mae Baby Buddy yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio ac yn Ap di-hysbyseb. Cyflwynir gwybodaeth fel diweddariadau dyddiol bach hygyrch a phersonol: Baby Buddy
-
-
-
-
-
-
-
-
-
Gwybodaeth i oedolion sy'n ddall neu'n rhannol ddall
Gwybodaeth i oedolion â ffydd / crefydd / treftadaeth / arferion diwylliannol
Cristnogaeth
-
Home For Good
Elusen sy’n sensitif i ffydd yn y DU yw Home for Good ac mae’n ymgyrchu dros gynyddu ymwybyddiaeth o fabwysiadu a maethu o fewn y gymuned Gristnogol. Mae Home for Good yn gweithio o fewn cwmpas eang mabwysiadu a maethu ac o fewn y gymuned Gristnogol i amlygu maethu a mabwysiadu yn y DU o safbwynt Cristnogol. Maent hefyd yn cymryd rhan yn y Grŵp Llywio Mabwysiadu Cenedlaethol (Lloegr).
Mae Home for Good yn cydlynu rhwydwaith o weithwyr ardal, mabwysiadwyr, gofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol er mwyn darparu rhwydwaith i gefnogi rhieni, teuluoedd, gofalwyr maeth, gweithwyr proffesiynol a’r rhai sy’n edrych ar fabwysiadu a maethu.
Maent yn gweithio gydag eglwysi a sefydliadau lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth o fabwysiadu a maethu o fewn y gymuned Gristnogol ehangach. Mae Home for Good yn annog eglwysi a sefydliadau i gynnal ‘Sul Mabwysiadu’ er mwyn codi ymwybyddiaeth ac maent hefyd yn cynnal cynhadledd a leolir yn ganolog unwaith y flwyddyn i fabwysiadwyr a gofalwyr maeth.
Mae Krish Kandiah, Cadeirydd y Bwrdd Arwain ar Fabwysiadu a Gwarchodaeth Arbennig (Lloegr) a sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol blaenorol Home for Good hefyd yn awdur ‘Home for Good’, sef llyfr sy’n siarad am fabwysiadu o’i brofiad personol ei hun.
Islam
Appiau i Oedolion
Llyfrau i Blant a Phobl Ifanc
Byddem yn annog oedolion i ddarllen y straeon hyn cyn eu rhannu â'u plant oherwydd natur sensitif y pynciau a drafodwyd. Efallai na fydd y cynnwys yn addas ar gyfer pob plentyn / person ifanc ac felly dylid ystyried pob llyfr yn seiliedig ar allu emosiynol, profiadau bywyd a dealltwriaeth/gallu'r plentyn unigol / person ifanc i ymdopi â'r pynciau sensitif a drafodir. Yn aml, mae angen cynllunio gofalus ar gyfer plant mabwysiadol.
-
Meesha Makes Friend - Tom Percival
Mae Meesha Makes Friends yn llyfr hyfryd, annwyl a llawn darluniau sy'n dilyn stori Meesha, plentyn creadigol sy'n ei chael hi'n anodd gwneud ffrindiau. Mae'r llyfr yn berffaith ar gyfer helpu plant gyda sefyllfaoedd cymdeithasol a datblygu perthnasau cadarnhaol ag eraill.
-
Daddy, Papa and Me / Mommy, Mama and Me - Lesléa Newman
Mae'r ddau lyfr byrddau odli hyn â darluniau hyfryd yn dilyn plentyn bach wrth dreulio'r diwrnod gyda'i rieni. Mae'r llyfrau hyn yn amlygu normalrwydd bywyd teuluol mewn ffordd hwyliog a diddorol i blant ifanc.
-
Two Dads / Two Mums – Carolyn Roberson
Mae'r ddau lyfr hyn yn dilyn meddyliau personol plentyn gyda rhieni LHDT+. Mae'r llyfrau'n archwilio bywyd pob dydd i blentyn ac yn amlygu normalrwydd bywyd teuluol mewn ffordd hwyliog a diddorol i blant.
-
Two Mums and a Menagerie – Carolyn Robertson
Mae'r stori odli hon yn dilyn bywydau teulu wrth iddynt barhau i dyfu ar ôl mabwysiadu am y tro cyntaf. Mae'r stori'n ymdrin â chael eich mabwysiadu, ennill brawd neu chwaer drwy fabwysiadu, mabwysiadu anifeiliaid anwes a symud i dŷ newydd.
-
The Teazlers’ Baby Bunny – Susan Bagnall
Mae ‘Teazlers’ Baby Bunny’ yn adrodd hanes y paratoi a’r cyfnod sy’n arwain at 'Baby Bunny’ yn cyrraedd teulu Teazler. Nod y llyfr yw cyfarwyddo plant â syniad mabwysiadu. Daw’r llyfr â chanllaw defnyddiol i rieni, sy’n egluro sut mae defnyddio’r llyfr i agor sgwrs am fabwysiadu. Mae’r llyfr ar gyfer plant dwy oed a hŷn.
-
The Most Precious Present in the World - Becky Edwards
Yn ‘The Most Precious Present in the World’, mae Mia, merch wedi ei mabwysiadu, ar goll ac yn drist oherwydd nad ydy hi'n edrych fel ei mam na'i thad. Gydol y llyfr, mae mam Mia'n egluro wrthi fod ei mam a’i thad biolegol wedi rhoi rhoddion iddi sy'n gwneud iddi edrych fel nhw, a’u bod wedi rhoi anrheg orau'r byd i'r rhieni mabwysiedig, sef hi. Mae’r llyfr hwn yn wych i’w ddarllen gyda phlant a chychwyn trafodaethau ynghylch hunaniaeth. Gall hefyd helpu plant i deimlo sicrwydd y cânt siarad am stori eu bywyd, bod cariad atynt a diogelwch iddynt yn eu teulu newydd.
-
A Safe Place for Rufus - Jill Seeney
Mae Rufus y gath yn symud at deulu newydd ac mae’n dysgu sut mae goresgyn ei ofnau a dysgu bod ei gartref newydd yn ddiogel a pharhaol a bod ei deulu newydd yn ei garu. Mae’r llyfr hwn yn helpu i sicrhau plant ei bod yn iawn iddynt gael newid yn anodd ac mae’n eu helpu i ddarganfod y gallan nhw, fel Rufus, ganfod ffyrdd o gael gwared ar eu hofnau a theimlo’n ddiogel. Daw’r llyfr â chanllaw defnyddiol i rieni, sy’n egluro sut mae defnyddio’r llyfr i agor sgwrs am fabwysiadu a theimlo’n ddiogel. Mae’r llyfr ar gyfer plant tair oed a hŷn.
-
Nutmeg Gets Adopted – Judith Foxon
Hanes Nutmeg, gwiwer fechan a’i theulu, ydy Nutmeg Gets Adopted. Dydy teulu geni Nutmeg ddim yn gallu gofalu amdano fe a’i frodyr a chwiorydd, felly mae’n rhaid i Beth y mochyn daear ddod o hyd i deulu newydd iddyn nhw; yn gyntaf, teulu maeth ac wedyn teulu am byth. Mae’r llyfr yn adnodd gwych i gychwyn siarad â phlant am eu stori bywyd. Rhydd y llyfr hwn gyfle i’r plentyn holi pam y bu rhaid iddo adael ei gartref a gofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddo ynghylch pam y digwyddodd hyn a helpu iddo drafod ei deimladau am ei fabwysiadu. Daw’r llyfr gyda chanllaw, sy’n egluro sut mae defnyddio’r llyfr i agor sgwrs am fabwysiadu. Mae’r llyfr yn ddelfrydol ar gyfer plant sy’n aros am deulu mabwysiedig, neu sydd newydd gael eu lleoli. Mae’r llyfr yn rhan o gyfres o lyfrau sydd wedi helpu plant wedi eu mabwysiadu i ddeall gwahanol destunau a allai effeithio arnynt.
-
Chester and Daisy Move On - Angela Lidster
Mae Chester a Daisy yn byw gyda’u teulu o eirth geni, ond pan fo pethau’n dechrau mynd o chwith, mae’n rhaid iddynt symud i fyw gyda theulu newydd. Mae’r stori’n egluro i blant na all rhieni geni edrych ar ôl eu heirth bach weithiau a dyna pam y cânt eu rhoi gyda theulu newydd. Mae’r llyfr yn ddefnyddiol i helpu i egluro wrth blant eu taith tua byw gyda’u teulu newydd. Mae’r llyfr yn trafod meddyliau a theimladau ac yn edrych ar gysylltiad blwch llythyrau.
-
And Tango Makes Three – Justin Richardson a Peter Parnell
Mae ‘And Tango Makes Three’ yn trafod rhieni un rhyw a mabwysiadu. Mae Roy a Silo, dau bengwin gwryw, yn gweld yr holl bengwiniaid heterorywiol yn cael babis ac maen nhw hefyd eisiau cychwyn eu teulu eu hunain. Daw’r ceidwad ag wy iddyn nhw, iddynt gael eu babi eu hunain.
-
The Blanket Bears – Samuel Langley-Swain
Mae The Blanket Bears yn dilyn hanes dwy arth fach y mae arnyn nhw angen teulu am byth. Mae’r stori yn dilyn eu taith o adael eu cartref gwreiddiol gyda’r gweithiwr cymdeithasol i fyw mewn gofal maeth ac, yn y diwedd, gwrdd â’u teulu am byth a symud i fyw gyda nhw. Mae’r stori yn archwilio’r perthnasoedd sydd rhwng yr eirth a’r holl bobl hyn ynghyd ag archwilio emosiynau tuag at newid. Mae hwn yn llyfr hyfryd, a ddefnyddir yn aml i baratoi plant cyn iddyn nhw cwrdd â’u teulu mabwysiadol. Mae hefyd yn ffordd wych o siarad am stori bywyd â phlant a’u galluogi i ofyn cwestiynau am eu stori bywyd gan gynnwys cyfnod gyda rhieni maeth.
-
The Day of Your Arrival – Dolores Brown a Reza Dalvand
Mae The Day of Your Arrival yn llyfr gyda darluniau hyfryd sy'n esbonio wrth blant am y broses yr aeth eu rhieni mabwysiadol drwyddi a’r gwaith paratoi a wnaed ganddynt cyn cwrdd â nhw. Mae'n atgoffa teuluoedd eu bod wedi cael profiadau bywyd gwahanol cyn dod yn deuluoedd am byth ac mae’n rhoi sicrwydd i’r plentyn ei fod yn ddiogel ac yn cael ei garu.
-
The Kites Tale – Molly Ashton
Yn ei llyfr plant newydd, The Kites Tale, mae’r awdur Molly Ashton yn archwilio mabwysiadu o safbwynt plentyn biolegol. Mae'r stori'n dilyn stori dau blentyn, Archie sy'n hiraethu am gael chwaer, a Posy sydd angen cartref am byth. Mae'r stori'n egluro i blant rolau gweithwyr cymdeithasol, gofalwyr maeth a phaneli mabwysiadu a rhai o'r materion anoddach sydd ynghlwm â mabwysiadu megis ymddygiad heriol a chyswllt â'r teulu biolegol. Mae'r stori'n dangos realiti gonest mabwysiadu yn ei holl gymhlethdodau, yn enwedig i blant sydd eisoes yn byw yng nghartref y teulu.
-
The NEW Small Person – Lauren Child
Mae The NEW Small Person yn stori ysgafn a doniol am Elmore Green sydd ddim yn falch pan ddaw person bach newydd, Albert, i fyw yng nghartref y teulu. Mae Elmore wedi arfer bod yn unig blentyn, ac y mae bywyd fel brawd mawr yn gryn her iddo. Mae hon yn stori wych i unrhyw un sy’n ystyried mabwysiadu ac sydd eisoes â phlentyn yn byw gyda hwy i’w helpu i baratoi’r plentyn neu i unrhyw un sy’n ceisio ymdopi â chystadlu rhwng brodyr a chwiorydd.
-
The Family Puzzle – Rosemary Lucas
Yn y stori odli hon, mae Ben a Belle yn archwilio sut mae rhai teuluoedd yn dod ynghyd â chymorth y tylwyth teg teuluol (gweithwyr cymdeithasol); cymeriadau a geir yn llyfr cyntaf Rosemary, The Family Fairies. Mae'r llyfr yn cynnwys darluniau cynhwysol o fywyd teuluol a'r asesiad, cefnogaeth mabwysiadu a phroses gyfreithiol o fabwysiadu.
Mae The Family Puzzle wedi’i gyhoeddi gan yr awdur ei hun ac mae ar gael ar-lein.
Mae gan Rosemary bresenoldeb digidol ar Facebook, Instagram a'i gwefan: Rosemary Lucas
-
Speechless – Kate Darbishire
Stori Harriet, sy'n un ar ddeg oed ac yn byw gyda pharlys yr ymennydd, wedi’i hadrodd yn y person cyntaf yw Speechless. Mae Harriet yn dweud wrth y darllenydd am ei phrofiad o fyw gyda pharlys yr ymennydd gan gynnwys ymdopi â’r ysgol a pherthnasoedd. Mae'r llyfr yn helpu'r darllenydd i ddatblygu gwybodaeth, empathi a dealltwriaeth o'r heriau sy'n wynebu pobl sy'n byw gyda pharlys yr ymennydd.
-
Adopting a little brother or sister – Holly Marlow
Mae'r llyfr hwn wedi'i ysgrifennu o safbwynt uniongyrchol merch fach y mae ei theulu yn mabwysiadu. Mae'n siarad am ei phrofiad o'i theulu yn cael ei asesu, cwrdd â'r gweithwyr cymdeithasol, ac yn olaf cwrdd â'i brawd newydd.
Dyma lyfr hyfryd, byr i blant sydd wedi'i gynllunio i baratoi plant ar gyfer y broses fabwysiadu a dod yn frawd neu chwaer trwy fabwysiadu.
-
Cousins by adoption – Holly Marlow
Mae'r llyfr hwn wedi'i ysgrifennu o safbwynt uniongyrchol merch fach y mae ei hewythr yn mabwysiadu. Mae hi'n siarad am ei hewythr yn mynd trwy'r broses fabwysiadu, sut maen nhw'n paratoi gyda'i gilydd ar gyfer cyrhaeddiad ei chefndryd newydd, ac yn olaf cwrdd â'i chyfnither newydd.
Dyma lyfr hyfryd, byr i blant sydd wedi'i gynllunio i baratoi plant ar gyfer y broses fabwysiadu a dod yn gefnder trwy fabwysiadu.
-
-
-
-
-
-
-
Appiau i Blant a Phobl Ifanc
Ffilmiau a Chyfresi ar gyfer Plant a Phobl Ifanc
Byddem yn annog oedolion i ddarllen y straeon hyn cyn eu rhannu â'u plant oherwydd natur sensitif y pynciau a drafodir. Efallai na fydd y cynnwys yn addas ar gyfer pob plentyn / person ifanc ac felly dylid ystyried pob llyfr yn seiliedig ar allu emosiynol, profiadau bywyd a dealltwriaeth/gallu'r plentyn unigol / person ifanc i ymdopi â'r pynciau sensitif a drafodir. Yn aml, mae angen cynllunio gofalus ar gyfer plant mabwysiadol.
-
Goodnight Mr Tom - Carlton Television
Ar sail y llyfr arobryn o 1981 gan Michelle Magorian, wedi ei osod yn ystod yr Ail Ryfel Byd, hanes Willie Beech a Tom Oakley yn dod i arfer gyda byw ynghyd ydy ‘Goodnight Mr Tom’. Caiff Willie ei anfon o Lundain yn ystod y Blitz. Mae’r stori’n amlygu’r addasiadau sy’n rhaid i oedolion a phlant eu gwneud wrth fyw ynghyd, a’r cysylltiadau a all ffurfio. Yn ystod y ffilm, cofia Willie ei amser gyda’i fam ac mae’r ffilm yn trafod ei brofiadau plentyndod, yn cynnwys gwahanu ac esgeulustod, yn ogystal â phrofiad Tom o gael plentyn newydd yn ei fywyd.
Gellir defnyddio’r ffilm i gychwyn sgwrs am fabwysiadu, teuluoedd biolegol, trawma, esgeulustod, gwahanu, hunaniaeth, profiadau bywyd cynnar a sgwrs am fywyd teulu gyda’i gilydd.
-
Inside Out - Pixar
Pan gafodd Riley ei symud oddi ar ei bywyd yn y Gorllewin canol ac i San Francisco oherwydd swydd newydd ei thad, mae teimladau Riley: Hwyl, Ofn, Dicter, Diflastod a Thristwch, yn cael eu drysu. Mae teimladau Riley yn byw yn ‘Y Pencadlys’ (ym meddwl Riley). Er bod Hwyl, prif deimlad Riley yn ceisio cadw pethau’n gadarnhaol, mae’r teimladau eraill yn dadlau sut i lywio orau yn ei hamgylchedd newydd. Mae’r ffilm hefyd yn edrych ar yr oedolion o’i chwmpas a sut y mae eu teimladau yn arwain eu hymddygiad a’i gweithrediadau. Dyma ffilm wych i annog trafodaeth o amgylch teimladau a newid.
-
Matilda - TriStar Pictures / Jersey Films
Mathilda yw stori merch sy’n dioddef esgeulustod emosiynol a chorfforol ynghyd â cham-drin geiriol gan ei theulu biolegol. Mae Mathilda yn cwrdd â chymeriadau drwy gydol y stori sy’n ei helpu i ddeall y byd o’i chwmpas. Mae’r stori hefyd yn trafod Miss Honey, athrawes Mathilda a’i pherthynas â’i modryb ar ôl iddi golli ei thad. Gall y ffilm hon annog trafodaethau am rhai o’r rhesymau pam y mae plant yn cael eu rhoi i’w mabwysiadu, eu profiadau negyddol yn gynnar yn eu bywyd a sut y mae’n bosibl i dy orffennol beidio ag effeithio ar dy ddyfodol.
-
The Story of Tracy Beaker – BBC iPlayer
Mae cyfres lawn 'The Story of Tracy Beaker' nawr ar gael i'w ffrydio ar BBC iPlayer. Mae'r gyfres yn archwilio bywyd grŵp o blant sy'n aros am deuluoedd am byth a theuluoedd maeth. Mae'r gyfres ddilynol, 'Tracy Beaker Returns', hefyd ar gael. Yn y gyfres hon, daeth Tracy yn weithiwr gofal cynorthwyol yn y cartref lle magwyd hi.
Mae'r rhan fwyaf o blant bellach yn mynd i ofal maeth yn lle cartrefi preswyl; fodd bynnag, mae'r rhaglen yn archwilio realiti profiadau plant wrth ddod i ddeall eu profiadau bywyd cynnar ac ymdopi â bywyd mewn gofal. Yn aml mae’r gyfres yn egluro emosiynau cymhleth plant mewn gofal a’r ymddygiad sy’n deillio o hynny a’r ysfa am berthyn a theulu.
-
Dustbin Baby – BBC iPlayer
Mae Dustbin Baby a ysgrifennwyd gan yr awdur plant Jacqueline Wilson yn dilyn stori April, merch 14 oed, a adawyd gan ei mam adeg ei geni. Mae'r stori'n canolbwyntio ar ben-blwydd April yn bedair ar ddeg oed. Ar ôl ffrae gyda'i mam faeth, Marion, mae April yn penderfynu ar fyrfyfyr i ymchwilio i hanes ei bywyd trwy ymweld eto â’r lleoedd a'r bobl sydd wedi bod yn arwyddocaol yn ei bywyd. Mae'n dechrau trwy ymweld â'i gofalwr maeth, sy'n ei harwain at gofio ei lleoliad mabwysiadol (a ddaeth i ddiweddglo trasig) a'i blynyddoedd dilynol yn byw mewn gofal, gan gynnwys byw gyda sawl gofalwr maeth ac mewn cartrefi/ysgolion preswyl. Y lle olaf y mae April yn archwilio yw man ei geni, rhyw lôn gefn y tu ôl i pizzeria, ac mae hyn yn ei harwain i gwrdd â'r dyn a ddaeth ar ei thraws yn y Bin Sbwriel bedair blynedd ar ddeg ynghynt. Mae naratif deuol yn datblygu trwy gydol y stori wrth i Marion hefyd archwilio ei phrofiadau a'i theimladau ei hun fel rhiant maeth trwy gydol y dydd wrth iddi geisio dod o hyd i April.
Mae'r stori'n deimladwy iawn i blant ac oedolion fel ei gilydd gan ei bod yn dadbacio profiadau o ofal, gan archwilio hanes bywyd a heriau a llawenydd perthnasoedd ar hyd y ffordd.
Byddem yn annog oedolion i ddarllen/gwylio’r straeon hyn cyn eu rhannu â'u plant oherwydd natur sensitif y pynciau a drafodir. Efallai na fydd y cynnwys yn addas ar gyfer pob plentyn ac efallai y bydd angen cynllunio gofalus. Mae'r llyfr ar gyfer darllenwyr 10+ oed ond, fel llawer o lyfrau eraill gan Jacqueline Wilson, dylai'r oedran fod yn ddibynnol bob amser ar allu emosiynol plentyn a’i ddealltwriaeth o'r pynciau sensitif dan sylw.
Mae Dustbin Baby ar gael fel llyfr a gwnaeth y BBC addasiad ffilm o'r llyfr yn 2008 sydd i'w weld ar
BBC iPlayer.
-
-
-
-
-
-
Llyfrau i Blant a Phobl Ifanc: Tyfu i Fyny
Mae’n bwysig i blant fod yn ymwybodol o’u cyrff, annibyniaeth ac uniondeb wrth iddynt brifio a datblygu oherwydd bod hyn yn rhan sylweddol o’u hunaniaeth ac yn helpu i’w cadw’n ddiogel.
Yr ydym yn sylweddoli y bydd gan rieni lefelau gwahanol o wybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad personol o’r pynciau hyn, a dyna pam yr ydym wedi ychwanegu’r adran hon er mwyn gwneud yn siŵr fod pawb yn teimlo’n barod ar gyfer trafod pynciau na ddylai fod yn gudd.
Buasem yn annog oedolion i ymchwilio i gynnwys yr adnoddau a awgrymir cyn eu rhannu gyda’u plant oherwydd natur sensitif y pynciau sy’n cael eu trafod. Efallai na fydd y cynnwys yn addas ar gyfer pob plentyn / person ifanc ac felly dylid ystyried pob llyfr yn seiliedig ar allu emosiynol, profiadau bywyd a dealltwriaeth/gallu'r plentyn unigol / person ifanc i ymdopi â'r pynciau sensitif a drafodir. Yn aml, mae angen cynllunio’n ofalus gyda phlant a fabwysiadwyd.
-
The Autism Friendly Guide to Periods – Robyn Steward
Mae’r mislif yn foment sy’n diffinio bywyd menyw.
Mae’r mislif yn nodi’r trosi o blentyndod / blynyddoedd yr arddegau i lencyndod, ac y mae’n bwysig fod plant yn ymwybodol o’r newidiadau hyn a sut i lywio drwyddynt. Gall y mislif gychwyn o unrhyw oedran, ond fel arfer mae’n digwydd rhwng 8-16 oed.
Bydd deall y mislif a bod yn ymwybodol o’r corff, bod yn annibynnol ac union o blentyndod ymlaen yn paratoi plentyn am yr amser pan fydd yn profi’r datblygiad hwn neu ddeall profiad rhywun arall.
Mae’r llyfr yn ganllaw clir, manwl a gweledol i anatomeg, datblygiad y corff, a’r mislif. Ysgrifennir y llyfr yn bennaf fel fersiwn hawdd i’w ddarllen / storïau cymdeithasol i gefnogi dealltwriaeth rhywun o beth yw’r mislif a sut mae’n teimlo, beth fydd yn digwydd, gan gynnwys sut i ddefnyddio amrywiaeth o gynhyrchion hylendid.
Mae’r awdur, Robyn Steward ei hun yn berson awtistig ac yn Gymrawd Cysylltiol er Anrhydedd yn UCL. Fe’i hysbrydolwyd i ysgrifennu’r llyfr er mwyn gwneud i ffwrdd â stigma, a thabŵ, a gwneud trafodaethau am y mislif yn rhan o ‘brifio’. Adolygwyd y llyfr gan gymheiriaid o weithwyr meddygol proffesiynol cyn ei gyhoeddi, ac fe’i canmolwyd gan y gymuned feddygol.
Mwy o wybodaeth:
Gwefan: Autism Friendly Periods
Facebook: @autismfriendlyguidetoperiods
Twitter: @robyn_steward
-
Amazing You: Getting smart about your private parts – Dr. Gail Saltz
Mae plant yn naturiol chwilfrydig, ac y mae bod yn chwilfrydig am ein cyrff yn arbennig o bwysig am ein bod yn tyfu a datblygu’n gyson.
Fodd bynnag, i rieni a gofalwyr (yn enwedig y rhai na chafodd, efallai, gymaint o addysg am y pwnc hwn yn eu plentyndod eu hunain) gall trin chwilfrydedd eu plentyn fod yn dipyn o her. Yn y pen draw, mae’n bwysig eich bod fel rhiant yn teimlo’n abl i ateb y cwestiynau hyn yn onest, mewn dull sy’n rhydd o gywilydd ac sy’n sensitif i gyfnod datblygiadol y plentyn.
Anelir y llyfr hwn at blant sy’n dod yn ymwybodol o ryw ond nad ydynt eto’n barod i ddysgu am gyfathrach rywiol, ac y mae’n rhoi llwyfan cyfforddus i rieni i drafod ymhellach.
Mae’r llyfr yn enwi ac yn esbonio organau cenhedlu’r gwryw a’r fenyw trwy ddarluniau a thestun sy’n sensitif i blant. Mae hefyd yn rhoi templed sylfaenol i ddeall sut mae gwryw a benyw yn cenhedlu baban, a’r broses o enedigaeth.
Mae’r Dr. Gail Saltz yn athro cysylltiol mewn Seiciatreg yn Ysbyty Presbyteraidd Efrog Newydd ac yn Seiciatrydd wrth ei gwaith. Mae wedi ychwanegu nodyn gan yr awdur yng nghefn y llyfr sy’n esbonio chwilfrydedd eich plentyn, sut i ddefnyddio’r adnodd, ac anogaeth am sut i ddwyn plant i mewn ac ymchwilio i’r pwnc hwn gyda hwy.
Mwy o wybodaeth:
Gwenfan: Dr. Gail Salt
Podlediadau: Dr Gail Saltz
YouTube: @GailSaltzMD
Facebook: @GailSaltz
Twitter: @DrGailSaltz
-
Making a Baby - Rachel Greener a Clare Owen
Yn y canllaw darluniadol, cynhwysol hwn, gellir ei ddefnyddio i gynorthwyo plant i ddysgu am eu cyrff, sut mae babanod yn cael eu creu, sut mae babanod yn datblygu, sut mae genedigaeth yn digwydd ac amrywiaeth teuluol. Mae'r llyfr yn cynnwys sgwrs ynglŷn â rhyw, triniaeth ffrwythlondeb, dirprwy-feichiogrwydd, a mabwysiadu. Ceir hefyd eirfa ar y diwedd sy'n rhoi esboniad pellach o'r termau a ddefnyddir yn y llyfr.
-
What is a period? - Nikki Tajiri
Gellir defnyddio'r llyfr darluniadol hwn fel cyflwyniad i'r pwnc mislif. Yn y llyfr mae mam June yn esbonio beth yw mislif, a'r broses a'u pwrpas. Mae'r llyfr hefyd yn annog plant i archwilio sut mae diwylliannau'n eu dathlu, a'u hysbrydoli i feddwl am sut yr hoffent ddathlu'r garreg filltir hon drostynt eu hunain.
-
The Girls Guide to Growing Up” gan Anita Naik
Crëwyd y canllaw hwn i gefnogi plant i baratoi ar gyfer glasoed benywaidd a'i ddeall. Mae'r llyfr yn cefnogi plant i archwilio profiadau benywaidd y glasoed gan gynnwys hormonau, bronnau a bras, twf, hylendid, gwallt corff, organau rhyw, mislif, rhyw, sut mae babanod yn cael eu creu, lles, hunan-barch, delwedd y corff a phreifatrwydd a chydsynio. Mae'r llyfr hefyd yn archwilio'n fyr rai profiadau gwrywaidd o'r glasoed.
-
-
-
-
-
-