Os hoffech gwyno am y ffordd y mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cydweithredol y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd wedi trin eich data personol, dylech gysylltu â Swyddog Diogelu Data (SDD) Cyngor Bro Morgannwg.
Gellir cysylltu â'r SDD am faterion fel hyn drwy'r cyfeiriad e-bost canlynol: DPO@valeofglamorgan.gov.uk. Wrth ysgrifennu, dylech geisio nodi eich pryderon yn glir, gan y bydd hyn yn helpu i ymchwilio i'r materion.
Lle nad ydych yn hapus ynglŷn â sut mae'ch data personol yn / wedi cael ei drin gan Wasanaeth Mabwysiadu Cydweithredol y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd, gofynnwch i gael eich cysylltu â SDD Cyngor Bro Morgannwg yn y lle cyntaf. Mae'r Gwasanaeth Cydweithredol yn trin eich gwybodaeth bersonol o ddifri. Deellir bod eich preifatrwydd a'ch gwybodaeth yn bwysig ac yn gyfrinachol.
Lle bydd pryderon, bydd y Gwasanaeth Cydweithredol am ymchwilio a cheisio datrys os yn bosibl a/neu ddysgu o'r digwyddiad i sicrhau ei fod yn gwella’i arfer yn y dyfodol.
Os ydych chi'n dal yn anfodlon â'r modd yr ymdriniwyd â'ch data personol, gallwch gyfeirio'r mater at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth y mae ei fanylion cyswllt isod:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru
2il Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
Ffoniwch 0330 414 6421 i siarad â'r tîm.
E-bost: wales@ico.org.uk
Gwefan: www.ico.org.uk