Mae ein gwasanaeth mabwysiadu domestig yn rhad ac am ddim; nid oes unrhyw gost i’r ymgeisydd oddi wrthym.
Fodd bynnag, mae ychydig o gostau'n gysylltiedig â gwasanaethau allanol:
Yn ystod Cam Un, mae'n ofynnol i bob ymgeisydd gael archwiliad meddygol gan eu meddyg teulu. Mae'r archwiliad meddygol yn drefniant preifat rhyngoch chi a'ch meddyg teulu a thelir y gost yn uniongyrchol i'r practis. Yng Nghymru, nid oes cost 'safonol' ar gyfer hyn ar hyn o bryd (er bod meddygon teulu'n cael canllawiau bob blwyddyn) ac felly mae'r gost yn amrywio yn dibynnu ar feddygfa.
Os ydych wedi byw dramor am fwy na chwe mis, mae'n ofynnol i chi gael gwiriadau tramor ar gyfer pob gwlad rydych wedi byw ynddi. Mae rhai gwledydd yn codi ffi am hyn, chi fydd yn talu’r ffi honno ac mae’n amrywio yn dibynnu ar y wlad. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth y DU: Gwiriadau Tramor
Bydd y ymgeisydd/ymgeiswyr yn talu ffi yn uniongyrchol i'r llysoedd wrth gyflwyno cais am Orchymyn Mabwysiadu. Ar hyn o bryd £183 yw’r gost: Gwneud cais am Orchymyn Llys Mabwysiadu
Os yw'r ymgeisydd/ymgeiswyr yn dymuno cael copi 'llawn' o'r Dystysgrif Fabwysiadu, yna mae cost am hyn sy'n cael ei thalu'n uniongyrchol i'r llysoedd. Ar hyn o bryd £11 yw’r gost: Tystysgrif Mabwysiadu
Yn amlwg, bydd hefyd y gost barhaus o ofalu am blentyn (fel y byddai pe bai plentyn yn cael ei eni i chi). Dyna pam y gofynnwn i chi ystyried eich sefyllfa ariannol cyn gwneud cais
Os ydych yn ystyried Mabwysiadu Rhyngwladol mae amrywiaeth o gostau'n gysylltiedig â hyn.