Mabwysiadu trawswladol
Mae’r holl Wasanaethau Mabwysiadu Rhanbarthol yng Nghymru yn asesu ymgeiswyr sydd am fabwysiadu o dramor.
Mae’r broses asesu’n debyg i honno ar gyfer mabwysiadwyr domestig ond ni all ymgeiswyr gael eu hasesu ar gyfer mabwysiadu domestig a mabwysiadu trawswladol ar yr un pryd. Mae trigolion Bro Morgannwg, Dinas Caerdydd, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf yn gymwys i gael asesiad gan ein gwasanaeth mabwysiadu mewn perthynas â mabwysiadu plentyn o dramor. Yn y cyfweliad cychwynnol gall ymgeiswyr drafod eu diddordeb mewn mabwysiadu, eu rhesymau dros ddewis mabwysiadu o dramor a’r broses asesu.
Bydd angen i ymgeiswyr fodloni meini prawf y wlad y mae'r plentyn yn dod ohoni, yn ogystal â’r gofynion cymhwysedd yn y DU. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw ymchwilio i, paratoi a darparu'r holl wybodaeth am ofynion mabwysiadu'r wlad y mae'r plentyn yn dod ohoni. Disgwylir i bob ymgeisydd gyflawni hyfforddiant paratoi cyffredinol ar gyfer pob mabwysiadwr.
Wrth ystyried mabwysiadu o wlad arall, dylech ddewis gwlad y mae gennych gysylltiadau â hi neu ddealltwriaeth o'i diwylliant, ei hanes a'i hiaith. Mae hefyd yn bwysig bod plentyn yn sefydlu a chynnal cysylltiadau â’i famwlad a bod rhieni mabwysiadol yn ystyried y materion y gallai plentyn eu profi o ran ei hunaniaeth.
Mae’r broses asesu’n debyg i honno ar gyfer mabwysiadu plentyn yn y DU ond, ar ôl ei chwblhau, caiff yr asesiad ei anfon i Lywodraeth Cymru am dystysgrif cymeradwyaeth. Caiff y dystysgrif hon ei hanfon i’r Asiantaeth yn y wlad o’ch dewis, a bydd yn dod o hyd i blentyn sy’n cyfateb i’r proffil yn eich asesiad. Fel rhan o’r cyflwyniadau, bydd angen i chi deithio i’r wlad lle mae’r plentyn yn byw.
Bydd costau ynghlwm wrth hyn, a bydd rhaid i ymgeiswyr sydd am gael eu hasesu fel mabwysiadwyr ar gyfer plentyn mewn gwlad arall dalu ffi ar gyfer cwblhau'r asesiad. Mae’r ffi hon yn dibynnu ar b'un a yw'r wlad y maent am fabwysiadu ohoni yn rhan o “Gonfensiwn Hague” neu’n “Wlad Ddynodedig”. Hefyd, mae’n bwysig cofio am y costau ychwanegol y gellid mynd iddynt, er enghraifft llety, teithio a chostau cyfreithiol.
Diffiniadau
“Confensiwn Hague” – y Confensiwn ar Ddiogelu Plant a Chydweithredu mewn perthynas â Mabwysiadu Trawswladol. Os bydd mabwysiadu trawswladol yn digwydd o wlad lle mae’r confensiwn hwn mewn grym, fe’i cydnabyddir yn y Deyrnas Unedig ac ni fydd angen i’r plentyn gael ei ail-fabwysiadu yn y DU. Os yw’r mabwysiadwyr yn byw yn y DU fel arfer a bod o leiaf un ohonynt yn ddinesydd Prydain, bydd y plentyn yn dod yn ddinesydd Prydain.
“Gwlad Ddynodedig” – Cydnabyddir mabwysiadu mewn gwledydd a restrir yng Ngorchymyn Mabwysiadu (Dynodi Mabwysiadu Tramor) 1973 (y rhestr ddynodedig) yn y DU ac ni fydd angen i’r plentyn gael ei ail-fabwysiadu yn y DU. Fodd bynnag, bydd angen cyflwyno cais ar wahân am ddinasyddiaeth Brydeinig i’r plentyn.
“Arall” – ni chydnabyddir mabwysiadu yn y DU oni bai ei fod yn fabwysiad Confensiwn Hague neu’n cael ei wneud gan wlad ar y rhestr ddynodedig. Bydd angen i’r mabwysiadwr/wyr wneud cais am orchymyn mabwysiadu yn y DU. Bydd hyn yn rhoi dinasyddiaeth Brydeinig i’r plentyn hefyd.
Dolenni Defnyddiol