Fideos a Chyfresi
Rydym am i chi deimlo mor barod â phosibl wrth ystyried mabwysiadu. Ar y dudalen hon fe welwch fideos a chyfresi sydd wedi’u creu gennym ni a'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Mae'r fideos a'r cyfresi’n ymdrin â mabwysiadwyr ac unigolion mabwysiedig a'u straeon.
Dweud y Gwir yn Blaen: Podlediad Straeon Mabwysiadu: Tymor Dau
Mae Tymor Dau podlediad Dweud y Gwir yn Blaen y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol nawr ar gael ac mae wedi'i uwchraddio o Dymor Un i nawr gynnwys fideo yn ogystal â sain draddodiadol. Gellir gweld Tymhorau Un a Dau o'r podlediad yma: Dweud y Gwir yn Blaen: Straeon Mabwysiadu neu drwy apiau ffrydio podlediadau mawr.
Tymor Dau, Pennod Un
Tymor Dau, Pennod Dau
Tymor Dau, Pennod Tri
Tymor Dau, Pennod Pedwar
Tymor Dau, Pennod Pump
Tymor Dau, Pennod Chwech
Dod yn Rhieni
Mae Dod yn Rhieni’n gyfres pedair rhan sy’n edrych ar fabwysiadu drwy lygaid pum person sydd wedi dod yn rhieni gyda’r Fro, yn y Cymoedd ac yng Nghaerdydd. Yn ystod y gyfres mae’r rhieni’n siarad am eu profiadau yn ystod gwahanol rannau o’r broses fabwysiadu o ‘Dechrau Arni’ i ‘Dod yn Deulu’.
Mae’r gyfres yn sôn am brofiadau ystod o deuluoedd. Mae’r holl rieni mabwysiadol posibl mor unigryw â’r plant a roddwn â nhw. Rydym yn chwilio am bobl a all rhoi cartref diogel, cariadus sy’n annog plant sydd angen y pethau hynny.
Hoffem ddiolch i Philipa, Ross, Michael, Gareth a Claire am gymryd rhan yn y gyfres hon ac am rannu eu straeon, codi ymwybyddiaeth ac yn y pen draw ysbrydoli eraill i feddwl am fabwysiadu.
Dechrau Arni
Asesu Personol
Paru a Dod i Nabod Eich Gilydd
Dod yn Deulu
Dewis Teulu hysbyseb teledu
10 mis. 10 oed. Bachgen. Merch. Brodyr. Chwiorydd. Pan fyddwch chi’n mabwysiadu, nid dewis plentyn yn unig ydych chi – rydych chi’n dewis teulu.
Gweld y Plentyn Cyfan
Mae ‘Byddwch yn rhiant arbennig / Become the parent only you could be’ yn ymgyrch Cymru gyfan sy'n cael ei chynnal gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (GMC Cymru). Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn goruchwylio'r broses o fabwysiadu ym mhob rhanbarth yng Nghymru. Mae'r ymgyrch yn tynnu sylw at yr angen am rieni sy'n mabwysiadu ledled Cymru ac yn annog y cyhoedd bod rhieni mabwysiadol yn union fel nhw i'w hysbrydoli y gallen nhw hefyd fabwysiadu.
Ymgyrch Recriwtio'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol
Stori Jess
Stori Chris
Stori David
Stori Emma
Gweld y Plentyn Cyfan
Mae ‘Gweld y Plentyn Cyfan’ yn ymgyrch gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (GMC Cymru). Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn goruchwylio mabwysiadu yng Nghymru benbaladr. Mae’r ymgyrch yn amlygu straeon gan rieni mabwysiadol a phlant sy’n oedolion a fabwysiadwyd.
We need adopters (with Welsh subtitles) from NAS Cymru on Vimeo.
Colin & Carol subtitles from NAS Cymru on Vimeo.
Tony & Jacquie Subtitled from NAS Cymru on Vimeo.