Yn ddiweddar, gwnaethom ofyn i'n tîm ysgrifennu am bwnc sy'n agos at eu calon. Er bod llawer o sioeau, rhaglenni dogfen ac adroddiadau newyddion yn amlygu rhai o'r meysydd ehangach sy’n ymwneud â mabwysiadu, mae naws bywyd teuluol cymhleth yn aml yn gweithredu heb gydnabyddiaeth gyhoeddus, wrth i'r teuluoedd a'r gweithwyr cymdeithasol lywio'r cymhlethdodau hyn gyda'i gilydd. Mae'n debyg mai un o'r elfennau lleiaf hysbys am y broses fodern o fabwysiadu yw’r cyfarfodydd rhwng y teuluoedd biolegol a’r mabwysiadwyr cyn i’r plentyn gael ei fabwysiadu i’r lleoliad, ynghyd â’r cyswllt parhaus.
Bydd gan bron pob plentyn, y mae ei gynllun gofal yn troi'n fabwysiadu, gynllun ar gyfer cyswllt parhaus â’r teulu biolegol. Mae hyn gan amlaf trwy gyswllt blwch llythyrau; fformat o anfon llythyrau diweddaru drwy'r asiantaeth fabwysiadu. Yr hyn sy'n llai hysbys fyth, o bosib, yw bod hyn hefyd yn cynnwys cyswllt wyneb yn wyneb i lawer mwy. Gall hyn olygu cyfarfod mewn canolfan gyswllt neu leoliad niwtral i weld perthnasau’r teulu biolegol sy’n oedolion gan gynnwys rhieni, brodyr a chwiorydd, a theulu estynedig fel mam-guod a thad-cuod, modrybedd, ac ewythrod ac ati. Gall hefyd olygu cyfarfod yn rheolaidd gyda brodyr a chwiorydd iau sy'n byw mewn lleoliadau mabwysiadol eraill, gofal maeth, neu gyda gofalwyr sy’n berthnasau.
Mewn achosion lle mae'n ddiogel ac yn gyfrifol i wneud hynny, hyd yn oed os nad cyswllt parhaus, wyneb yn wyneb yw'r argymhelliad cyfredol, gofynnir i’r teulu biolegol a’r teulu mabwysiadol ystyried cyfarfod am y tro cyntaf. Gellir gwneud hyn hefyd yn ôl-weithredol ar ôl i’r broses fabwysiadu ddigwydd.
Mae un o'n Gweithwyr Cymdeithasol, Emily, wedi cefnogi sawl teulu dros y blynyddoedd i gwrdd â'i gilydd, a elwir hefyd yn 'gyfarfodydd cyntaf'. Mae'n rhywbeth y mae hi'n teimlo'n angerddol drosto oherwydd mae hi wedi gweld yr effaith y gall y cyfarfodydd hyn eu cael nid yn unig i'r person mabwysiedig ond hefyd i'r rhieni biolegol a mabwysiadol. Yng ngeiriau Emily ei hun mae'r cyfarfodydd hyn yn “anfesuradwy o bwysig a phwerus".
Yn y blog hwn, mae'n rhannu ei meddyliau ei hun a meddyliau'r teuluoedd y mae hi wedi gweithio gyda nhw am bwysigrwydd ymgysylltu â'r math hwn o gyswllt. Ein gobaith yw y bydd y blog hwn yn eich annog a'ch grymuso i archwilio mwy am y maes hanfodol hwn o fabwysiadu.
Cyfarfodydd Cyntaf: Stori Emily:
Gyda dechreuad Sefydlogrwydd Cynnar Cymru (SCC) yng Nghymru, lle mae disgwyl i ddarpar fabwysiadwyr gwrdd ag aelodau teulu biolegol plentyn yn eithaf aml tra'n ofalwr maeth i blentyn y gallent fynd ymlaen i'w fabwysiadu, roeddwn yn pendroni tybed sut y byddai'r ffordd newydd hon o ymarfer yn esblygu yng Nghymru ac yn newid arfer yn ehangach o ran agweddau tuag at drefnu i fabwysiadwyr gwrdd â rhieni biolegol plant, wrth eu bod yn dilyn y llwybr mabwysiadu mwy traddodiadol.
Ychydig dros flwyddyn yn ôl, cefais y fraint broffesiynol o gefnogi rhai o fy mabwysiadwyr i gwrdd â mam fiolegol y plentyn yr oeddent yn mynd i fod yn ei fabwysiadu. Aeth y cyfarfod yn arbennig o dda; yn gymaint felly, nes fy mod yn teimlo wedi fy nghymell i ysgrifennu amdano, i’w rannu â darpar fabwysiadwyr, teuluoedd biolegol a chyd-weithwyr cymdeithasol sydd yn aml, am amrywiaeth o resymau, yn nerfus iawn am gymryd rhan mewn/trefnu'r cyfarfodydd hyn.
Nid yw'r cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal mor aml ag y credaf y dylent. Ar gyfer persbectif, rwyf wedi gweithio fel Gweithiwr Cymdeithasol Mabwysiadu ers bron i saith mlynedd bellach, ac yn Weithiwr Cymdeithasol Plant am saith mlynedd cyn hynny. Yn ystod y cyfnod hwn, dim ond pedwar cyfarfod rhwng y teuluoedd biolegol a’r mabwysiadwyr rydw i erioed wedi bod yn rhan ohonynt. Roedd y rhain yn emosiynol ac yn ddwys bob tro, ond yn hynod gadarnhaol ac yn effeithiol. Nid oes yr un o'r mabwysiadwyr na'r perthnasau biolegol a gymerodd ran erioed wedi difaru bod yn rhan o’r cyfarfodydd hyn.
Yn un o'm cyfarfodydd mwyaf diweddar, roedd y cwpl mabwysiadol yn gwpl heterorywiol, hynod garedig ac ystyriol nad oeddent yn gallu beichiogi'n naturiol ac a ddewisodd ddilyn y llwybr o ddod yn rhieni trwy fabwysiadu ar ôl taith ffrwythlondeb anodd a phoenus. Stori a fydd yn gyfarwydd i lawer o bobl sy'n mabwysiadu. Mae mam fiolegol eu merch yn unigolyn sydd wedi gadael gofal, gyda chefndir hynod drist o drawma yn ei phlentyndod, sydd wedi arwain at gyfnod anodd wrth ddod yn oedolyn, lle mae baich ei thrawma wedi troi'n ystod o heriau, sydd wedi golygu y byddai'n ei chael hi'n anodd darparu gofal a diogelwch da yn gyson i blentyn.
Yn aml, pan fydd y penderfyniad hwn yn cael ei wneud, mae llawer o rieni biolegol yn gweld parhau i ymgysylltu'n gadarnhaol â gwasanaethau am eu plentyn yn rhy boenus, yn rhy anodd yn emosiynol i ymdopi ag ef, oherwydd mae'r peth mwyaf annirnadwy o boenus o golli eu plentyn yn digwydd ac nid yw'r rhan fwyaf o rieni biolegol yn barod yn emosiynol i ymdopi â'r newyddion hyn, heb sôn am ddod o hyd i'r dewrder i gytuno i gwrdd â mabwysiadwyr eu plentyn yn y dyfodol.
Ond pan fo rhieni biolegol neu berthnasau biolegol yn cytuno ar hyn, a gellir ei reoli'n ddiogel, yn aml nid yw'n mynd yn ei flaen oherwydd bod naill ai mabwysiadwyr yn poeni gormod amdano, neu fod gweithwyr cymdeithasol y plentyn yn poeni gormod am risgiau canfyddedig neu, yn wir, am les emosiynol y perthnasau biolegol. Yr anhawster yw bod gweithwyr cymdeithasol y plant yn aml yn cael perthynas wrthwynebus iawn â theuluoedd biolegol trwy achosion gofal, ac o ganlyniad maent yn aml yn gweld yr ochr fwyaf heriol i bobl. Rwyf wedi cynnal sesiynau cwnsela rhieni biolegol di-ri gyda rhieni, ac mae llawer ohonynt wedi cael perthynas anodd iawn gyda gweithiwr cymdeithasol eu plentyn. Yn amlach na pheidio, maent wedi llwyddo i gael sgyrsiau hynod heriol yn emosiynol gyda mi (ydw, rwy’n weithiwr cymdeithasol ond nid yr un sydd wedi tynnu eu plentyn oddi wrthynt) am ddarpar fabwysiadu eu plentyn yn y dyfodol ac wedi aros yn ddigynnwrf ac mewn llawer o achosion, yn teimlo'n gyfforddus i ddangos emosiynau mwy agored i niwed a rhannu meddyliau a dymuniadau am yr hyn y byddent ei eisiau ar gyfer eu plentyn, os ydynt yn cael eu mabwysiadu. O fy mhrofiad i nid yw'r rhain yn drafodaethau hawdd; yn enwedig o ystyried yr anwadalrwydd emosiynol naturiol a brofir gan deuluoedd biolegol sy'n aml yn teimlo'n arbennig o agored i niwed yn ystod y cyfnod hwn. Caiff hyn ei ddwysáu ymhellach gan fod y cyfarfodydd hyn fel arfer yn digwydd yn ystod achosion gofal; cyn i'r penderfyniad terfynol gael ei wneud ynghylch ai mabwysiadu fydd y cynllun.
Dangosodd y fam fiolegol yn yr achos rwyf wedi sôn amdano uchod, lefel o wydnwch sydd ond yn gallu dod o brofiad o drawma mewn gwirionedd. Yn fras, yr elfen o rewi o 'ymladd, ffoi, rhewi', ydoedd. Roedd hi mor gyfarwydd â thrallod, ei bod yn ymddangos yn oddefol yn emosiynol, neu’n rhyfeddol o ddigynnwrf. Mae pob person yn ymateb i drawma, ac yn ei reoli, yn wahanol, ond rydym yn gweld digon o'r ymladd, digon o'r ffoi a’r rhewi gan ein perthnasau biolegol mewn achosion mabwysiadu; yn aml mae'r ymladd yn cael ei gyfeirio at weithwyr proffesiynol amddiffyn plant, nid y mabwysiadwyr nac unrhyw un arall, a bydd llawer o rieni yn dianc rhag cymryd rhan yn gyfan gwbl - ffoi. Gwnaeth y fam fiolegol hon greu cymaint o argraff arnom, gyda'i thosturi tuag at y mabwysiadwyr, ei pharodrwydd i fod yn agored a'i dewrder syfrdanol. Roedden nhw’n oriau hynod emosiynol.
Roedd pawb yn teimlo'n emosiynol ac, ar ôl iddi holi’r mabwysiadwr a fydden nhw'n caru ei phlentyn, gwnaeth y mabwysiadwr gwrywaidd lefain, a chododd y fam fiolegol o'i sedd, symudodd o gwmpas y bwrdd ac estynnodd hances iddo. Roedd ei charedigrwydd, mewn sefyllfa mor anodd, yn aruthrol, ac roedd yn rhywbeth hardd roedd mabwysiadwyr ei phlentyn yn gallu ei weld ynddi.
Roedd ei photensial fel person yn amlwg, yn ogystal â'i brwydrau. Er y potensial, y tristwch mwyaf am y cyfarfod oedd bod rhwystrau a beichiau’r fam hon mewn bywyd, er gwaethaf pa mor garedig oedd hi fel person, yn rhy fawr iddi fagu plentyn yn ddiogel.
Roeddwn i'n gallu gweld pa mor nerfus oedd hi, ac roedd hi'n defnyddio technegau anadlu ar adegau i lonyddu ei hun a chadw ei gorbryder dan reolaeth. Roedd hi'n gwbl benderfynol o gymryd rhan yn y cyfarfod hwn; roedd hi am sicrhau bod gan y mabwysiadwyr wybodaeth bwysig amdani, a gwybodaeth am hanes meddygol ei theulu. Roedd hi eisiau clywed yn bersonol sut roedd y bobl hyn yn mynd i garu ei phlentyn, sut y bydden nhw'n ei chadw'n ddiogel. Waeth pa mor gadarnhaol y gallai ei pherthynas weithio fod gyda gweithwyr cymdeithasol sy'n ymwneud ag achos ei phlentyn, byddai'n anodd iawn iddi eu credu pan fyddant yn dweud, mae'r mabwysiadwyr yn bobl hyfryd.
Roedd hi’n wych. Cytunodd i gael ei llun wedi’i thynnu gyda'r mabwysiadwyr iddynt allu ei rannu gyda'u plentyn yn y dyfodol, a chofleidiodd bawb.
Siaradodd yn huawdl am ei bywyd, ei beichiogrwydd, yr enedigaeth, ei theimladau, a gofynnodd gwestiynau pwysig a dwys. Gwrandawodd yn ofalus ar y mabwysiadwyr hefyd a dangosodd y gallu i gydymdeimlo â nhw a'u taith i ddod yn rhieni, wrth eistedd o'u blaenau yn siarad am y ffaith ei bod yn mynd i golli ei phlentyn.
Gwelodd fy mabwysiadwyr y goleuni yn y tywyllwch mewn perthynas â’r fam fiolegol hon; gall fod yn anodd cyfleu'r ochr hon i berthnasau biolegol ar bapur ac er bod rhai gweithwyr cymdeithasol yn eithaf da am fod yn gytbwys ynghylch personoliaethau a chryfderau perthnasau biolegol ymysg eu problemau, gall llawer weld hyn yn anodd pan fyddant mor aml yn wynebu ochr anoddach y teuluoedd biolegol yn ystod achosion gofal; lle mae'r ffocws, yn naturiol, ar ochr fwy negyddol natur y bobl hyn. Cyfarfod â rhywun yn bersonol yw'r ffordd fwyaf pwerus i fabwysiadwyr weld, er ymysg yr holl negyddoldeb, mai dim ond bodau dynol â theimladau ac sydd ag ochr gadarnhaol, yw rhieni a pherthnasau biolegol.
Rwyf bob amser wedi teimlo bod fy ngwaith yn emosiynol, am bob math o resymau, ond ers dod yn fam fy hun dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, dwi'n sicr yn teimlo emosiynau mwy pwerus pan fyddaf mewn sefyllfaoedd fel hyn. Mae'r syniad o golli fy mhlentyn fy hun, yn fy mrifo'n gorfforol, a gallaf nawr werthfawrogi, ar lefel wahanol, ychydig o'r hyn y mae'n rhaid bod y fam fiolegol hon wedi bod yn ei deimlo ac mae'n debyg y bydd bob amser yn ei deimlo i ryw raddau. Mae’r parch sydd gennyf tuag at y fam hon yn anfesuradwy o enfawr; mae hi wedi bod yn ddigon dewr i ddod i siarad am ei gobeithion a'i dymuniadau ar gyfer ei phlentyn, i wirio ei bod yn teimlo bod y bobl oedd yn mabwysiadu ei phlentyn yn bobl hoffus, a fydd yn caru ac yn gofalu'n dyner am y plentyn y mae hi eisiau gofalu amdano'i hun.
Yn ystod y cyfarfod roedd y fam fiolegol yn gallu mynegi ei bod hi'n teimlo bod y mabwysiadwyr yn bobl ddymunol iawn a'r hyn yr oedd hi'n ei hoffi am yr hyn roedden nhw'n ei ddweud. Ar ôl gadael, mynegodd i weithiwr cymdeithasol ei phlentyn nad oedd yn barod am ba mor hyfryd fyddai’r mabwysiadwyr, a sut, er yn boenus iawn o hyd, roedd yn teimlo rhyw lefel o sicrwydd.
Y peth tyngedfennol oedd ei bod wedi siarad hefyd yn ystod y cyfarfod am sut roedd hi'n teimlo'n fwy hyderus am ysgrifennu cyswllt blwch llythyrau blynyddol nawr ei bod wedi cwrdd â'r mabwysiadwyr. Gall hyn ond fod yn beth cadarnhaol i'w phlentyn. Gall fod yn anodd cael ymgysylltiad cyswllt blwch llythyrau cadarnhaol am amrywiaeth o resymau ac os gall y cyfarfodydd hyn helpu i sefydlu cyfnewidfeydd blwch llythyrau cadarnhaol ac ystyrlon mewn mwy o achosion, mae hynny’n un o sawl mantais gadarnhaol o'r cyfarfodydd hyn.
Yn fwy diweddar, cefnogais fabwysiadwr arall i gwrdd â rhieni biolegol ei ferch, a oedd eisoes wedi bod dan ei ofal am gyfnod cyn bod modd trefnu'r cyfarfod. Roedd ef a'i wraig yn nerfus iawn am y syniad o'u cyfarfod, gan nad oeddent wedi gwneud hyn gyda'u plentyn mabwysiedig cyntaf. Fodd bynnag, roedd yn cydnabod manteision gallu dweud wrth ei ferch ei fod wedi cwrdd â'i rhieni biolegol a phenderfynodd ei fod am fwrw ymlaen, wrth barhau i fod yn nerfus iawn am y peth. Roedd ei wraig yn teimlo'n rhy bryderus i gymryd rhan, gan ofni y byddai’n cael ei hadnabod yn gyhoeddus un diwrnod ac roedd yn pryderu y byddai ei gorbryder yn gwneud iddi ymddangos yn wael ac yn difetha'r cyfarfod. Roedd hi hefyd yn nerfus iawn ynghylch ei gŵr yn cymryd rhan, ac fe gymerodd amser hir iddyn nhw benderfynu beth i'w wneud. Ar ôl llawer o drafod, cytunwyd i fwrw ymlaen hebddi, a derbyniodd y rhieni biolegol ei habsenoldeb yn ddi-gwestiwn, ac mewn gwirionedd gwnaethant fynegi caredigrwydd a dealltwriaeth am ba mor nerfus y mae'n rhaid ei bod wedi teimlo, gan barchu ei phenderfyniad i beidio â bod yn bresennol.
Fel gyda'r enghraifft arall a rannwyd, roedd y cyfarfod hwn yn hynod gadarnhaol. Dangosodd fy mabwysiadwr lawer iawn o barch a charedigrwydd tuag at y rhieni biolegol (y ddau wedi gadael gofal â chanddynt gefndiroedd anodd) a chawsant eu cysuro'n gyflym gan garedigrwydd annisgwyl a natur ostyngedig rhieni biolegol ei blentyn. Fel yr enghraifft flaenorol, roedd potensial y ddau riant ifanc hyn yn amlwg yn yr awr honno. Fe ofynnon nhw gwestiynau perthnasol, synhwyrol a gwrando'n astud wrth i'r mabwysiadwr siarad am eu merch a'i deulu. Siaradon nhw am flwch llythyrau a chytuno ar yr hyn roedden nhw i gyd yn gyffyrddus ag ef yn y llythyrau, a fydd, gobeithio, yn cyfrannu at brofiad blwch llythyrau cadarnhaol i bawb. Gwnaethant dynnu llun gyda’i gilydd a fydd yn mynd i mewn i lyfr taith bywyd ar gyfer y plentyn, a gwnaethant gofleidio’i gilydd ac ysgwyd llaw.
Wrth i'r mabwysiadwr a minnau gerdded i'm car wedyn, roedd e’, a oedd yn siaradus iawn fel arfer, wedi’i syfrdanu ac yn gwbl ddistaw. Roedd y profiad yn agoriad llygad, yn gadarnhaol, yn ddwys, yn emosiynol, ac yn llawer mwy nag yr oedd wedi disgwyl iddo fod. Ar ôl y cyfarfod, llwyddodd i fynegi cymaint mwy o gydymdeimlad tuag at rieni biolegol ei blentyn nag erioed o'r blaen a rhannodd ei rwystredigaeth nad oedd y ddau berson ifanc hyn yn gallu bod yn rhieni. Roedd eisiau 'rhoi siglad iddyn nhw', wrth hefyd gydnabod bod angen rhianta cefnogol arnyn nhw hefyd. Dechreuodd hefyd obeithio’r gorau iddynt allu rianta eu plentyn nesaf, a oedd mewn gofal maeth ar y pryd gyda chynllun posib ar gyfer mabwysiadu ar ddiwedd yr achos gofal. Yn dilyn y profiad, gwelodd eu bod yn bobl dda, nad oedd ganddynt unrhyw gefnogaeth, oedd wedi cael dechrau gwael ac ychydig iawn ar eu hochr i'w helpu i wneud dewisiadau cadarnhaol. Roedd yn mynd i fwrw mlaen â’i fywyd yn magu ei ferch, bellach yn credu'n wirioneddol nad oedd ei rhieni biolegol yn bobl ddrwg, ac nid oedd yn teimlo'n wael tuag atynt, sy'n deimlad y gall ei drosglwyddo i'w ferch wrth iddi ddysgu mwy am ei rhieni biolegol. Wrth iddo gerdded yr holl ffordd yn ôl at ei gar, roedd wedi’i syfrdanu, gyda’i goes yn ysgwyd yn nerfus, wrth feddwl am y profiad. Unwaith y cyrhaeddodd ei gar, dywedodd ffarwel ac yn amlwg nid oedd yn hollol siŵr beth i'w wneud ag ef ei hun, ar ôl yr hyn yr oeddem newydd ei brofi gyda'n gilydd. Gallwn ddweud ei fod yn teimlo'n emosiynol ac wedi’i lethu ryw ychydig, felly cynigiais gwtsh iddo, ac fe’i gymerodd yn llawen, gan fy ngwasgu'n dynn a diolch i mi am ei 'orfodi' i gymryd rhan yn y cyfarfod. Rydych chi'n bondio’n ddwys iawn wrth weithio'n agos gyda mabwysiadwyr, mae'r cyfarfodydd hyn ymysg y profiadau a rennir mwyaf anhygoel a gefais yn fy ngyrfa gyfan hyd yn hyn.
Yng nghynhadledd ddiweddaraf y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Adoption UK 2023, cawsom drafodaethau ynghylch y gydnabyddiaeth gynyddol mewn ymchwil ac ymarfer mabwysiadu, bod tryloywder gyda phlant mabwysiedig am eu hanes yn hanfodol i'w lles tymor hwy a sut mae gwahanol fathau sylweddol o gyswllt parhaus â pherthnasau biolegol a theuluoedd maeth yn chwarae rhan hanfodol yn hyn. Trafodwyd hyn yng nghyd-destun heriau cyfryngau cymdeithasol, a’u bod yn ddull i blant mabwysiedig a pherthnasau biolegol chwilio am ei gilydd, her go iawn ac anochel i fabwysiadwyr ac un sy'n fwy tebygol o fynd yn broblemus mewn achosion lle nad yw bod yn agored a thryloywder cystal ag y gallent fod. Y gred yw, os yw mabwysiadwyr yn bachu ar gyfleoedd megis cyfarfodydd perthnasau biolegol mewn person (neu drwy fideo rhithwir efallai) ac yn ymdrechu i gysylltu drwy blwch llythyrau, bydd hyn yn lleihau'r risg y bydd eu plentyn mabwysiedig yn teimlo'r angen i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn gyfrinachol i chwilio am berthnasau biolegol a allai fod yn beryglus, sydd yn siŵr o greu helynt nad yw’n barod eto i ymdrin ag ef yn llawn. Os gall cyfarfodydd perthnasau biolegol helpu i sefydlu cyswllt blwch llythyrau mwy llwyddiannus, mae'n hwyluso deialog ddiogel a reolir yn ofalus rhwng mabwysiadwyr, plant mabwysiedig a pherthnasau geni sy'n debygol o leihau'r chwilfrydedd ar y ddwy ochr i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i chwilio am ei gilydd a mynd i gyswllt a allai fod yn broblemus. Wrth gwrs, ni fydd y math hwn o gyfarfodydd wyneb yn wyneb rhwng perthnasau biolegol a mabwysiadwyr bob amser yn ddiogel neu'n briodol, ond rwy'n siŵr y gallent gael eu cynnal yn amlach nag y maent yn cael eu gwneud.
Rwy'n ffodus i weithio gyda chydweithiwr, sy’n weithiwr cymdeithasol, sydd hefyd yn fabwysiadwr i ddau fachgen ac sydd wedi cyfarfod â theulu biolegol ei phlant. Gofynnais iddi am ei barn ar gyfarfodydd perthnasau biolegol o'r ddau bersbectif a dywedodd:
"Fel gweithiwr cymdeithasol gofal plant, pan fyddaf yn meddwl pam mae'r cyfarfodydd hyn yn bwysig, rwy'n dechrau meddwl am ymdeimlad datblygol y plentyn o hunaniaeth trwy gydol ei blentyndod a'r angen i gydbwyso gwybodaeth gadarnhaol am ei gefndir a'i hanes teuluol, ochr yn ochr â'r stori anodd neu drist yn aml pam y cawsant eu mabwysiadu. I fabwysiadwyr a rhieni biolegol, mae'n gyfle i ofyn cwestiynau a allai ddod â'r parti arall yn fyw a'u gwneud yn fwy real a phersonol. Ni ellir dysgu am ddiddordebau, personoliaethau neu glywed am atgofion rhieni biolegol am yr amser y gwnaethon nhw dreulio gyda'u plentyn trwy ddarllen adroddiad, a gall fod yn fwy effeithiol i blentyn yn y dyfodol wrth i'w ddealltwriaeth o'i hunaniaeth a'i daith fabwysiadu dyfu. I rieni biolegol, rwy'n gobeithio y bydd y cyfarfodydd hyn yn cynnig ymdeimlad o sicrwydd o wybod ychydig mwy am y bobl a fydd yn mynd ymlaen i fabwysiadu eu plentyn; rwy'n credu bod pob rhiant biolegol yn haeddu gwybod bod eu plentyn wedi’i garu, wedi ei eisiau a bod y teulu mabwysiadol yn gofalu amdano. Pan fydd y cyfarfodydd cychwynnol hyn yn cael eu cynnal, mae'n teimlo fel ein bod yn pontio'r bwlch rhwng gorffennol, presennol a dyfodol plentyn. Bron fel petai ni’n gosod y sylfaen ar gyfer rhannu gwybodaeth yn y dyfodol a datblygu cyswllt a fydd, yn anochel, yn newid wrth i'r plentyn dyfu."
"Yn ddealladwy, bydd adegau pan fydd risg yn atal y cyfarfodydd hyn rhag cael eu cynnal ac weithiau, mae angen i ni feddwl yn wahanol i’r arfer h.y. pan nad yw'n ddiogel i gynnal cyfarfod rhieni biolegol, a oes perthnasau eraill o fewn y teulu biolegol sydd hefyd wedi chwarae rhan sylweddol ym mywyd y plentyn fel mam-guod a thad-cuod, modrybedd, neu ewythrod, oherwydd bod y cysylltiad hwnnw mor, mor bwysig."
"Pan ddaethon ni'n rhieni mabwysiadol, roedden ni wir eisiau cwrdd â rhieni biolegol ein plant. I ddechrau, rwy'n credu bod hyn oherwydd ein bod am gynnig rhywfaint o sicrwydd iddynt y byddai'r bechgyn yn cael eu caru, yn derbyn gofal, yn ddiogel ac yn hapus. Roedd yn teimlo fel ein bod ni'n gwybod popeth amdanyn nhw, a doedden nhw'n gwybod dim amdanom ni ac nid oedd hynny'n ymddangos yn deg. Pan ddaeth yn amser ar gyfer y cyfarfod, dim ond y fam yr oeddem yn gallu ei chyfarfod ond gwnaeth hyd yn oed hynny roi cymaint o wybodaeth i ni na fyddem fel arall wedi'i chael. Siaradodd â ni am ei beichiogrwydd a rhannodd straeon am yr enedigaeth a sut roedd y plant fel babanod; eiliadau arbennig yr oedd hi wedi'u rhannu â nhw na fydden ni byth wedi gwybod amdanynt na'u rhannu â nhw heb ein bod wedi cwrdd â hi."
Roedd y cyfarfod ei hun yn hynod emosiynol ond roedd gweld a siarad â’r fam yn werth chweil. Roedd yn foment a wnaeth wirioneddol siapio ein dealltwriaeth ohoni hi a'n hempathi tuag ati. Rwy'n aml yn meddwl amdani hi nawr ar adegau sy’n garreg filltir, ac yn hoffi meddwl y byddai hi'n teimlo mor falch ag yr ydym ni. Mae'n bendant wedi gwella ansawdd ein cyswllt blwch llythyrau, oherwydd ein bod yn ysgrifennu at rywun yr ydym wedi cwrdd ag ef yn hytrach na dieithryn. Fel rhieni, rydyn ni'n gwybod y bydd amser pan na fydd cyswllt blwch llythyrau'n diwallu anghenion ein plant ac ar ôl cwrdd â’r fam, mae'n ein gwneud ni'n fwy gobeithiol y gellir gwneud newidiadau i gyswllt mewn ffordd â chymorth, ar yr adeg iawn i'n plant. Felly, er ein bod yn teimlo ar y dechrau bod angen rhoi sicrwydd, roedd yr hyn y gwnaethon ni ei ddysgu o'r cyfarfod yn llawer mwy; gwnaethon ni ddatblygu gwell dealltwriaeth o daith bywyd ein plant, empathi a gwerth ar gyfer ein teulu biolegol a theimlad o fod yn fwy parod i'w cefnogi yn y dyfodol."
I'r holl fabwysiadwyr:
Rwy'n gwerthfawrogi ei bod yn frawychus meddwl am gwrdd â phobl, lle’r unig beth rydych chi'n ei wybod amdanyn nhw yw'r wybodaeth negyddol a phryderus a ysgrifennwyd yn aml o fewn gwaith papur ffurfiol. Fodd bynnag, er gwaethaf eu hamgylchiadau, eu camgymeriadau, eu penderfyniadau negyddol ac weithiau eu gweithredoedd neu eu diffyg gweithredu, rwy'n credu bod rhieni/perthnasau biolegol yn aml wedi bod yn anlwcus. Maent yn aml yn bobl sy’n agored i niwed ac yn ddifreintiedig, sydd heb gael fawr ddim o gariad go iawn, arweiniad defnyddiol, a chefnogaeth gyson yn eu bywydau eu hunain. Fel arfer mae ganddyn nhw'r un hanesion â'ch plentyn chi yn y dyfodol, ond efallai nad ydyn nhw wedi cael cyfle i deimlo'n ddiogel, teimlo eu bod yn cael eu caru a dysgu sut i fod yn bobl hapus, sefydlog sy'n deall perthnasoedd iach a chariadus. Maen nhw'n fodau dynol â theimladau, ac mae’r peth mwyaf poenus yn digwydd iddyn nhw.
Peidiwch â bod ofn. Rwy'n eich annog i gymryd rhan mewn cyfarfod teuluol biolegol os gallwch. Mae dod yn rhiant yn dod â chymaint o bethau gwych i'ch bywyd ond weithiau, bydd y peth iawn i'ch plentyn, yn teimlo'n heriol i chi fel rhiant ac rwy'n credu bod hynny'n fwy gwir i fabwysiadwyr weithiau.
Mae'r rhesymau yr wyf wedi’u clywed yn aml dros beidio â chynnal y cyfarfodydd hyn yn ymwneud ag ofn, gorbryder y mabwysiadwyr am gael eu hadnabod gan berthnasau biolegol wedi hynny, a chywilydd neu bryder am golled y teulu biolegol a sut mae’r mabwysiadwyr yn elwa, gan wneud i bobl deimlo'n rhy bryderus i wynebu poen y bobl hynny yn bersonol.
Yn union fel y byddwch chi'n sefyll yn gwylio'ch plentyn yn simsanu ar frig sleid ac rydych yn ceisio atal eich gorbryder amdano yn cwympo ac yn atal eich hun rhag gafael ynddo; yn union fel rydych chi'n ei wylio'n cerdded i lawr y ffordd i chwarae allan ar ei ben ei hun am y tro cyntaf; yn union fel y byddwch yn rhoi'r allweddi iddo i'w gar cyntaf a'i wylio’n gyrru i ffwrdd neu gwrdd â'i gariad cyntaf nad ydych yn siŵr amdano/amdani; yn union fel rydych chi'n siarad ag ef am atgenhedlu, rydych chi'n gwybod bod angen i'ch plentyn ddysgu o’i gamgymeriadau. Mae angen rhyddid a lle arno i dyfu ac mae'n rhaid i chi fel ei riant fynd trwy'r teimladau a'r profiadau anodd hynny er ei fudd gorau. Yn union fel yr holl enghreifftiau hyn, a llawer o rai eraill hefyd, mae gwthio trwy'r gorbryder a'r ofn hwnnw ynghylch cwrdd â pherthnasau biolegol eich plentyn yn werth chweil oherwydd nid yw'n rhywbeth y byddwch chi'n ei ddifaru.
Dydw i ddim yn tanbrisio faint o her emosiynol fydd y math yma o gyfarfod i bawb; nid yw'n beth hawdd i'w wneud. Mae'n dipyn o ofyn. Fodd bynnag, rydych chi wedi’ch cymeradwyo i fabwysiadu a'r disgwyliad sy'n dod gyda hyn yw y dylech chi feddu ar y cryfder emosiynol a'r gwydnwch a fydd yn eich gwneud chi'n ddigon cryf i ymdopi â digwyddiad fel hwn, sy’n heriol yn emosiynol. Rwy'n addo i chi, ni fydd byth cynddrwg ag y bydd eich meddwl yn dweud wrthych. Os rhywbeth, bydd yn fwy tebygol o fod yn hynod emosiynol ond, yn y pen draw, yn brofiad cadarnhaol.
Cofiwch fod y cyfarfodydd hyn wedi'u cynllunio'n ofalus i fod yn ddiogel. Gosodir rheolau sylfaenol, nid yw enwau go iawn mabwysiadwyr yn aml yn cael eu defnyddio, caiff y defnydd o wybodaeth am ble mae mabwysiadwyr yn byw ei osgoi, gofynnir am gwestiynau o'r ddwy ochr cyn cyfarfodydd a’u rhannu, ni chaniateir i berthnasau biolegol dynnu lluniau, dewisir lleoliad niwtral, diogel, mae gweithwyr cymdeithasol yn bresennol ac yn cefnogi llif y sgwrs, caiff y modd y mae cyfranogwyr yn cyrraedd ac yn gadael eu gwasgaru a gall mabwysiadwyr fod yng nghwmni gweithiwr cymdeithasol o leoliad arall, er mwyn osgoi eu bod yn cyrraedd ac yn gadael yn eu ceir yn lleoliad y cyfarfod.
Os ydych eisoes wedi mabwysiadu ac na chawsoch gyfle i gael cyfarfod gyda’r perthnasau biolegol nid oes rheolau cadarn ynghylch sut na phryd y cynhelir y cyfarfodydd hyn. Rwyf wedi cefnogi’r gwaith o’u cynnal yn ystod y broses paru cyn lleoli ac ar ôl i blentyn symud i'w gartref mabwysiadol. Nid oes unrhyw niwed wrth wneud ymholiadau ynghylch trefnu cyfarfod o'r fath, hyd yn oed os yw'ch plentyn bellach yn byw gyda chi ac mae'r Gorchymyn Mabwysiadu ar waith.
Os ydych chi'n ddarpar fabwysiadwr presennol, yna gofynnwch i'ch Gweithiwr Cymdeithasol am gyfarfodydd gyda pherthnasau biolegol ac efallai y byddwn yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad â mabwysiadwyr eraill sydd wedi profi hyn, os ydych chi'n teimlo y bydd hyn yn eich helpu i benderfynu bwrw ymlaen â chyfarfod ai peidio.
I'm cyd-weithwyr cymdeithasol:
Ceisiwch gamu'n ôl o'r berthynas sydd gennych â pherthnasau biolegol; efallai nad yw bob amser yn un cadarnhaol iawn ac ystyriwch, "sut mae’r bobl hyn yn ymddwyn gyda gweithwyr proffesiynol eraill neu yn gyhoeddus". Peidiwch â chymryd yn ganiataol, er efallai bod y teulu biolegol yn eich casáu chi, y byddant fel hyn gyda phawb arall.
Yn ddiweddar, roeddwn i’n gweithio gyda gweithiwr cymdeithasol plentyn, gweithiwr cymorth gofal plant a'n gweithiwr mabwysiadu ar ran y rhiant biolegol (a oedd eisoes yn adnabod y fam fiolegol), i drefnu cyfarfod rhwng y rhiant biolegol a’r mabwysiadwr. Gyda'n gilydd, roeddem wedi ystyried yr holl ffactorau risg yn ofalus, ac wedi penderfynu y gallem gefnogi cyfarfod gyda’r rhieni biolegol yn ddiogel. Mae gan y fam fiolegol anghenion dysgu ffiniol a diagnosis iechyd meddwl cymhleth, sy'n ei gwneud hi'n eithriadol o agored i niwed, ac ar adegau, yn gyfnewidiol. Mae llawer o'i hanwadalwch wedi bod tuag at Weithwyr Cymdeithasol pan mae hi wedi teimlo ei bod yn cael ei herio ac allan o'i dyfnder. Ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud i fynd yn ei flaen, mewn cyfarfod adolygu holodd gweithiwr cymdeithasol, a oedd hefyd yn gweithio ar yr achos, pa mor synhwyrol oedd y penderfyniad i fwrw ymlaen â'r cyfarfod, yn seiliedig ar ei phrofiadau ei hun gyda'r fam fiolegol. Cefais fy siomi gan hyn oherwydd roeddwn i'n teimlo ei fod yn tanseilio'r ystyriaeth ofalus yr oeddem wedi'i roi ynghylch a oedd hyn yn ddiogel ac yn synhwyrol, a chyda rhai mabwysiadwyr, byddai wedi eu hofni ac wedi golygu na fyddai’r cyfarfod wedi mynd yn ei flaen. Fel mae’n digwydd, roedd y mabwysiadwyr yn yr achos hwn yn gryf iawn ac yn ddigynnwrf ac aethant ymlaen er gwaetha’r amheuaeth hon.
Roedd y cyfarfod yn gadarnhaol iawn; daeth y fam â’i mam-gu’r gyda hi i’r cyfarfod, a gwyddem y byddai hynny'n helpu i'w chadw'n ddigyffro. Roeddem hefyd wedi gwneud llawer o waith paratoi gyda’r fam a’r fam-gu ymlaen llaw, i'w galluogi i ddod i mewn i'r cyfarfod gyda'r ffocws cywir. Roedd y fam yn nerfus iawn ac roedd hi'n hynod dawel am y rhan fwyaf o'r cyfarfod a gofynnodd i mi ddarllen ei chwestiynau. Gadawodd y fam-gu, y fam a'r mabwysiadwr y cyfarfod hwn gan deimlo ei fod yn werth chweil; mae'r mabwysiadwr yn teimlo bod ganddo ychydig mwy o wybodaeth bersonol i'w rhannu gyda'i blentyn mabwysiadol un diwrnod, a mynegodd y fam a’r fam-gu pa mor dawel eu meddwl yr oedden nhw'n teimlo ar ôl cwrdd â'r mabwysiadwr, yr oedden nhw'n teimlo oedd yn ddyn 'hoffus, caredig, gofalgar' oedd yn amlwg yn mynd i garu a gofalu am blentyn y fam fiolegol. Gwnaethon ni roi adborth i'r gweithiwr cymdeithasol ar ôl y cyfarfod, ac ar ôl peth myfyrio, meddyliodd efallai bod anwadalrwydd y fam mewn cyfarfodydd eraill yn deillio o deimlo'n ddryslyd, yn ofnus a bod neb yn gwrando arni, ond gan fod y cyfarfod gyda’r mabwysiadwr yn rhywbeth roedd y fam wir eisiau ei wneud, roedd y ffaith ei bod hi'n teimlo bod rhywun yn gwrando arni am y tro cyntaf, wedi helpu i wneud y cyfarfod yn gadarnhaol. Rwy'n credu y dylai'r enghraifft hon fod yn rhywbeth y dylai gweithwyr cymdeithasol eraill, sy'n ceisio penderfynu a fyddai'n synhwyrol i gynnal cyfarfod gyda’r rhieni biolegol, gnoi cil drosto.
Rwy'n gobeithio y bydd y naratif hwn o fy mhrofiadau fy hun, yn rhoi ychydig o fewnwelediad i pam y gall cyfarfodydd gyda pherthnasau biolegol fod yn werthfawr, yr hyn y gellir ei ddisgwyl, ac yn rhoi'r hyder i chi archwilio'r maes mabwysiadu hwn ymhellach.