Yn ddiweddar cawsom y pleser o siarad â Liz, Darlithydd Theatr a Seicotherapydd, am ei phrofiad hi a phrofiad ei phartner, Mike, o fod yn rhieni mabwysiadol.
Mabwysiadodd Liz a Mike eu mab, Iwan*, pan oedd yn chwe mis oed. Oherwydd amgylchiadau cymhleth, penderfynodd mam fiolegol Iwan ildio ei chyfrifoldeb rhiant am Iwan o'i enedigaeth.
“Roeddwn i eisiau mabwysiadu erioed.” meddai Liz. "Cafodd fy modryb ei mabwysiadu ac wrth dyfu i fyny, roeddwn i’n hoffi rhywun yn fy nosbarth a oedd wedi’i fabwysiadu felly, rwy’n credu fy mod i wedi bob amser wedi bod yn ymwybodol o'r cysyniad o fabwysiadu. Roedd gan fy mhartner, Mike a minnau yrfaoedd prysur a dechreuais i feddwl am blant yn ddiweddarach yn ein perthynas. Nid oedd Mike wedi ystyried mabwysiadu o'r blaen ond po fwyaf yr oedden ni’n ei archwilio, y mwyaf yr oedden ni’n teimlo mai mabwysiadu oedd y llwybr cywir i ni."
Cafodd mam fiolegol Iwan feichiogrwydd cudd (nid oedd hi’n ymwybodol ei bod hi'n feichiog) a rhoddodd enedigaeth ychydig oriau ar ôl darganfod ei bod hi'n feichiog. Penderfynodd rhieni biolegol Iwan yn y pen draw nad oedden nhw'n gallu cynnig sefydlogrwydd i Iwan bryd hynny yn eu bywydau ac felly penderfynon nhw ildio'u cyfrifoldeb rhiant. Cafodd Iwan ei leoli gyda gofalwr maeth i ddechrau cyn i'w gynllun gofal ddod yn fabwysiad. Ar ôl wythnos o gyflwyniadau (lle mae rhiant/rhieni mabwysiadol yn cwrdd â'r plentyn yng nghartref y gofalwr/gofalwyr maeth), symudodd Iwan i mewn gyda Liz a Mike.
Myfyriodd Liz: "Gwnaeth gweithiwr cymdeithasol Iwan greu pariad da i ni gyd, gan ei bod hi'n ymwybodol o greadigrwydd yn nheulu biolegol Iwan".
Rhan Un: Llywio Awtistiaeth ac Ysgol
"Roedden ni wrth ein boddau ag Iwan yn dod yn rhan o'n bywydau ac roedd yn ymddangos ei fod yn ymgartrefu'n dda." myfyriodd Liz. Fodd bynnag, wrth iddo ddechrau tyfu a datblygu, tua dwy i dair oed, dechreuodd Liz a Mike sylwi bod Iwan yn mynd yn fwy a mwy rhwystredig.
"Doeddwn i ddim wir yn deall beth oedd yn digwydd ac roeddwn i'n teimlo'n eithaf ynysig. Y 2000au oedd hi ac roedd gan bob un ohonon ni lai o ddealltwriaeth o Awtistiaeth nag sydd gennyn ni nawr. Rwy'n credu y byddai wedi bod yn wahanol nawr.” myfyriodd Liz. "Fodd bynnag, roedd yr her a ddaeth yn sgil y sefyllfa yn help mawr i mi dyfu fel person a derbyn y gallaf fod yn wydn pan fo angen i mi fod."
"Doedd ysgol gychwynnol Iwan ddim y lle gorau iddo ac o fewn tri mis penderfynon ni symud o Orllewin Cymru, yn ôl i Gaerdydd er mwyn i ni allu bod yn agosach at ein rhwydwaith cymorth ac addysgu mwy arbenigol".
"Dechreuodd Iwan mewn ysgol Gymraeg, newydd. I ddechrau, ffynnodd ef ym mlynyddoedd 2-3 yn yr ysgol gynradd oherwydd ar y cam hwnnw yn yr ysgol, mae dysgu'n canolbwyntio ar symud a chwarae. Fodd bynnag, ym mlwyddyn 4 mae'r disgwyliadau'n newid ac mae'r ffocws yn newid i eistedd i ddysgu. Gwnaeth Iwan gael trafferth gyda'r newid hwn ac i ddechrau roeddwn i'n teimlo bod yr ysgol yn meddwl nad oedden ni wedi bod yn gwbl agored am anghenion Iwan. Fodd bynnag, roedden ni hefyd yn dal i ddysgu am ei anghenion ein hunain."
"Yn ystod y cyfnod hwn gwnaeth yr ysgol fandadu mai dim ond am awr y dydd y dylai Iwan fynychu’r ysgol. "Roedd hyn yn aflonyddol iddo, ac roedd yn anodd gan fod angen i ni’n dau weithio yn ystod y cyfnod hwn i sicrhau ein bod ni'n gallu goroesi'n ariannol."
"Gwnaethon ni weithio llawer gyda'r ysgol yn ystod y cyfnod hwnnw. Gyda'r cymorth hwn gwnaeth Iwan ymgartrefu. Un o'r pethau a oedd yn arbennig o ddefnyddiol i ni oedd rhoi tegan iddo y gallai ei ddefnyddio i dawelu ei anghenion synhwyraidd. Gwnaeth Iwan ffrindiau ac roedden nhw'n ffrindiau anhygoel iddo; gwnaethon nhw ei dderbyn am bwy ydoedd, ac roedd yn hoff iawn o fod yn ffrindiau gyda nhw."
"Yn anffodus, ar ddiwedd yr ysgol gynradd cafodd penderfyniad ei wneud y byddai angen i Iwan fynd i ysgol wahanol i'w gyfoedion. Rwy'n teimlo nawr y gallai'r ysgolion fod wedi ymdrin â hyn yn wahanol. Roedd yn golled bellach i Iwan, a gwnaeth golli ei ffrindiau."
"Symudodd Iwan i ysgol arbenigol, ac roedd hyn yn newid anodd iddo oherwydd roedd gan holl blant eraill yr ysgol anghenion cystadleuol, gyda rhai ohonyn nhw’n sbarduno ei strategaethau ymdopi ei hun".
"Yr hyn rydyn ni wedi'i ddysgu dros y blynyddoedd yw bod pob plentyn, ond plant sydd wedi’u mabwysiadu a'r rheini sy'n byw gydag anghenion ychwanegol yn benodol, yn ffynnu o gysondeb. Yn anffodus, nid yw hyn yn rhywbeth y mae Iwan bob amser wedi cael y fraint o'i brofi trwy ei fywyd ysgol neu gyda'i deulu biolegol."
"Mae Iwan yn byw gydag Awtistiaeth a hefyd yn Osgoi Galwadau ar rai dyddiau o'r mis, pan mae’n profi mwy o orbryder. Oherwydd hyn, mae angen i ni addasu ein harddull rhianta ar ei gyfer. Rydyn ni hefyd wedi ei chael yn ddefnyddiol dadansoddi ein profiadau ein hunain o gael ein rhianta a nodi'r hyn yr ydyn ni am ei gario ymlaen a’r hyn nad yw'n gweithio i ni. Er enghraifft, wrth fyfyrio ar fy mhlentyndod fy hun, sylweddolais fy mod yn teimlo bod angen i mi ymddwyn mewn ffordd benodol i dderbyn cariad. Roeddwn i eisiau mabwysiadu'n rhannol oherwydd doeddwn i ddim eisiau teimlo fy mod i’n meddu ar blentyn oherwydd fy mod i wedi ei fagu a rhoi genedigaeth iddo. Rwyf eisiau i Iwan deimlo fy mod i'n ei garu am bwy bynnag yw e, mor ddiamod ag y galla i, a'i fod yn gallu bod yn annibynnol."
"Dros y blynyddoedd rydyn ni wedi ymgymryd ag amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi. Gwnaethon ni weld bod dysgu am P.A.C.E yn arbennig o ddefnyddiol ac mae wedi bod yn rhan annatod o'n perthynas ag Iwan. Rydyn ni hefyd wedi cael mynediad i gwrs rhianta gydag Adoption UK. Roedd hynny'n cynnwys cwrdd â rhieni eraill am chwech i saith wythnos ar y penwythnos. Mae'r profiadau hyn a'm cefndir theatr sy'n cynnwys dehongli stori a chymeriadau mewn dramâu, wedi siapio'r ffordd i mi astudio Seicotherapi."
"Yn fwy diweddar cafodd Iwan ddiagnosis o anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd. Yr anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd yw'r agwedd fwyaf gwanychol ar ei anghenion gan y gall wirioneddol amharu ar ei broses addysg a dysgu. Roedd yn wych cael meddyginiaeth iddo sydd wedi’i helpu i symud ymlaen. Wrth i Iwan dyfu'n hŷn mae'n llawer tawelach na sut roedd o'n arfer teimlo. Mae ei eirfa yn wych, ac mae'n darllen llawer ar-lein. Mae wedi bod yn her wirioneddol dod o hyd i'r cyrsiau gorau iddo ac rydyn ni wrthi’n gweithio gyda’r tîm yn y coleg y mae'n mynd iddo sy'n ei gefnogi ar sail 1 i 1. Y broblem bresennol yw dod o hyd i fan tawel amser cinio i fwyta, gan fod lleoedd a ffreuturiau gorlawn yn ei sbarduno."
Rhan Dau: Llywio cyswllt gyda’r teulu biolegol
"Rwyf wastad wedi teimlo'n gryf bod gan deulu biolegol Iwan le arwyddocaol yn ei fywyd. Fel ei rieni biolegol, maen nhw wastad yn rhan o'r darlun ar ryw lefel."
Roedd Iwan yn ei chael yn anodd ymgysylltu â gwaith hanes bywyd ysgrifenedig, ond dywedodd Liz ei fod yn ffynnu o gyswllt personol.
Yn anffodus, nid yw tad biolegol Iwan, Paul erioed wedi teimlo ei fod yn gallu cysylltu ag Iwan. Roedd gan Paul, sydd hefyd wedi cael diagnosis o anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, berthynas doredig gyda'i dad ei hun ac roedd yn gweld y cysyniad o fod yn dad ei hun yn llethol.
Fodd bynnag, o adeg y lleoliad, mae Liz, Mike ac Iwan i gyd wedi meithrin perthynas â mam fiolegol Iwan, Lucy.
"Mae cael perthynas gyda mam fiolegol Iwan wedi bod yn amhrisiadwy i Iwan. Ac, i mi fy hun a Mike, mae adnabod Lucy yn bersonol wedi ein helpu i ddeall Iwan yn fwy. Rydyn wir yn gwerthfawrogi’r ffaith ei bod hi yn ein bywydau a'r berthynas sydd gennym ni gyda hi a’r berthynas sydd gan Iwan gyda hi. Mae Lucy'n hwyl, yn gariadus ac yn ecsentrig, a gallwn ni weld y tebygrwydd rhyngddi hi ac Iwan. Mae gan frawd Lucy syndrom Asperger felly, o dyfu i fyny gydag ef mae ganddi brofiad blaenorol o rai o'r heriau mae Iwan yn eu profi."
"Mae tyfu i fyny yn cael cyswllt wyneb yn wyneb â'i fam wedi golygu bod Iwan yn gallu meithrin perthynas rhyngbersonol â hi ac mae wedi gallu gofyn cwestiynau iddi’n uniongyrchol sydd wedi eu cefnogi i feithrin perthynas unigryw. Rhannodd Lucy gydag ef ei bod yn ei garu ond nad oedd hi'n teimlo y gallai hi ofalu amdano fel y mae rhiant angen ei wneud. Yn hytrach, dywedodd y gallai ei garu fel modryb. O hyn mae Iwan yn deall ei bod hi'n ei garu ond nad oes ganddi'r gallu i ofalu amdano yn y ffordd y byddai ei hangen."
Cafodd Liz, Mike ac Iwan gyswllt hefyd gyda mam-gu fiolegol Iwan ar ochr ei dad, Heather, yn ystod blynyddoedd cynnar ei fywyd. Roedd hyn yn cynnwys gweld ei gilydd wyneb yn wyneb a dywedodd Liz fod hyn yn bositif i Iwan gan mai dyma berson arall oedd yn ei garu ac a allai fod yn ei fywyd. Yn ystod plentyndod Iwan ailbriododd Heather ac roedd ganddi hi a'i phartner newydd y gallu ariannol i deithio'r byd. Dros amser, mae'r cyswllt wedi lleihau. Mae Liz a Mike yn credu y gallai hyn fod oherwydd y newid ym mywyd Heather.
"Mae'n bwysig aros yn effro i ddewisiadau'r plentyn ac roedd Iwan yn fodlon bod gyda ni ac eisiau bwrw ymlaen â'i fywyd" myfyriodd Liz. "Yr unig her rydyn ni wedi synhwyro i Iwan yw'r ffaith nad yw ei dad biolegol wedi bod mewn cyswllt ac nad yw eisiau cyswllt. Weithiau gall Iwan ddweud rhywbeth am hyn ac mae’n tueddu i fynd yn rhwystredig. Wrth gael ei holi ymhellach fodd bynnag mae’n ymddangos ei fod yn glir iawn nad yw am gael cyswllt chwaith. Pwy a ŵyr os bydd hyn yn newid yn nes ymlaen mewn bywyd."
"Rydyn ni wedi bod yn lwcus iawn i gael Iwan yn ein bywydau ni ac rydyn ni'n ei garu mwy na'r lleuad a'r sêr, fel dwi'n tueddu i ddweud! Mae'n fachgen hyfryd ac yn glyfar iawn. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yn gallu parhau i sylweddoli pwy ydyw a chael y cymorth sydd ei angen arno yn y byd."
"Pan ddywedais i wrth Iwan fod yr erthygl yma yn cael ei hargraffu roedd e eisiau ychwanegu rhywfaint o gyngor i ddarpar rieni mabwysiadol ynglŷn ag Awtistiaeth. Dywedodd: "Dylech ymarfer eich amynedd a cherdded i ffwrdd pan fydd pethau'n mynd yn anodd. Lle yw popeth i'r meddwl awtistig dawelu."
"Byddwn i (Liz) hefyd yn ychwanegu, os bydd popeth arall yn methu, gwnewch yn siŵr bod potel braf o win yn yr oergell a thrîts yn y cwpwrdd....a siocled, mwy na thebyg!"