Os ydych yn penderfynu bod mabwysiadu yn teimlo fel llwybr rydych chi eisiau parhau i'w archwilio gofynnwn i chi gysylltu â ni i drefnu ymweliad cychwynnol. Bydd aelod o'r tîm recriwtio yn trefnu i gwrdd â chi i: ddod i'ch adnabod, cael gwybod mwy am eich amgylchiadau personol, cael sgwrs fanwl am fabwysiadu ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau manwl i chi yn y cam hwn, ynglŷn â'ch cymhellion i fabwysiadu, eich hanes personol, eich iechyd a'ch ffordd o fyw. Os penderfynwch fwrw ymlaen â hyn ac os gallwn eich gwahodd i barhau, byddwn yn gofyn i chi lenwi Ffurflen Cofrestru Diddordeb.