Sefydlogrwydd Cynnar Cymru
Beth yw Sefydlogrwydd Cynnar Cymru?
Pan fyddant yn cael eu tynnu o'u teulu biolegol am y tro cyntaf, mae'r rhan fwyaf o blant yng Nghymru, naill ai ychydig cyn neu ar ddechrau achosion gofal, yn cael eu rhoi naill ai gydag aelodau o'u teuluoedd (gofal sy'n berthnasau) neu mewn lleoliad maeth tymor byr gyda gofalwyr maeth.
- Os mai cynllun yr awdurdod lleol (a gadarnhawyd gan y llys) yw i’r plentyn naill ai gael ei ddychwelyd i’w rieni geni neu ei osod gydag aelodau o'r teulu, yna mae'r plentyn yn symud o'i leoliad maeth ar ddiwedd achos i'r person(au) a nodwyd
- Os mai cynllun yr awdurdod lleol yw i gynllun gofal y plentyn gael ei fabwysiadu a bod hyn yn cael ei dderbyn gan y llys, yna mae'r gofalwr maeth yn gofalu am y plentyn wrth iddo drosglwyddo i'w leoliad mabwysiadol
Mewn Sefydlogrwydd Cynnar Cymru, mae'r gofalwr/gofalwyr Sefydlogrwydd Cynnar Cymru sy'n mynd â'r plentyn ar ddechrau'r achos hefyd yn ddarpar riant/rieni mabwysiadol cymeradwy. Yn ystod ei leoliad, mae gofalwr Sefydlogrwydd Cynnar Cymru’n gweithredu fel y byddai unrhyw ofalwr maeth, gan ofalu am y plentyn, hwyluso cyswllt â’r teulu biolegol a chymryd rhan yn adolygiadau derbyn gofal y plentyn. Os mai'r cynllun gofal yw i ddychwelyd y plentyn i’w deulu neu ei leoli gyda nhw, yna mae'n helpu'r plentyn wrth drosglwyddo i'w deulu biolegol. Os mai mabwysiadu yw bwriad y cynllun gofal, yna bydd y plentyn yn aros gyda gofalwr Sefydlogrwydd Cynnar Cymru sydd wedyn yn dod yn rhiant/rhieni mabwysiadol.
Effaith Sefydlogrwydd Cynnar Cymru i blant
Mae Sefydlogrwydd Cynnar Cymru ar gyfer plentyn/plant yn golygu nad oes rhaid iddo drosglwyddo o leoliad maeth/perthynas i leoliad mabwysiadol os mai mabwysiadu yw bwriad ei gynllun gofal; a fydd yn y bôn yn golygu gadael y bobl y mae wedi datblygu ymlyniadau â nhw.
Gyda rhai plant, nid oes fawr o sicrwydd y byddant yn dychwelyd i’w teulu biolegol, ond gydag eraill mae mwy o siawns o ailuno â’r teulu ehangach neu gael lleoliad gyda nhw.
Effaith Sefydlogrwydd Cynnar Cymru ar ofalwyr Sefydlogrwydd Cynnar Cymru
Er bod nifer y plant sy'n dychwelyd i'r teulu biolegol neu'n cael eu gosod gydag aelodau o'i deulu o leoliadau Sefydlogrwydd Cynnar Cymru yn fach, ni ellir byth warantu na fydd y plentyn yn dychwelyd. Felly, rhaid i Ofalwyr Sefydlogrwydd Cynnar Cymru amgyffred difrifoldeb hyn yn llawn a'r effaith y gallai hyn ei chael arnynt eu hunain a'u teulu ehangach eu hunain.
Gall llawer o ddarpar fabwysiadwyr weld budd Sefydlogrwydd Cynnar Cymru i'r plentyn ac maent yn cael eu paratoi, gyda chymorth, i ymdrin â'r ansicrwydd iddynt hwy eu hunain ar ran y plentyn.
Gyda babanod sy'n cael eu tynnu o rieni biolegol yn fuan ar ôl cael eu geni, mae gofalwr Sefydlogrwydd Cynnar Cymru yn cael y cyfle i ofalu am blentyn newydd-anedig Fodd bynnag, dylid nodi, fel gydag unrhyw leoliad ifanc, fod risg gyda’r lleoliad hwn hefyd nad oes modd gwybod trywydd datblygiadol y plentyn yn llawn wrth ei leoli.
Gyda phlant hŷn, mae Sefydlogrwydd Cynnar Cymru yn rhoi cyfle i'r gofalwr ddarparu gofal sefydlog i blentyn yn ystod cyfnod cynharach o'i brofiad gofal, beth bynnag y bo'r cynllun gofal terfynol.
Profiad lleoliadau Sefydlogrwydd Cynnar mewn rhai ardaloedd yn Lloegr (lle mae'n cael ei ymarfer yn gyffredin) yw bod gofalwyr yn croesawu'r rôl o fod yn ofalwyr maeth. Yn eu profiad nhw, mae'r rhan fwyaf o blant mewn lleoliadau Sefydlogrwydd Cynnar yn parhau yn y lleoliad hwnnw ac unwaith y bydd y cynllun gofal i'w fabwysiadu yn cael ei gadarnhau gan y llys, mae'r plentyn yn dod yn blentyn y gofalwyr yn gyfreithiol trwy fabwysiadu. Mae llawer o fabwysiadwyr trwy Sefydlogrwydd Cynnar yn rhannu bod cwrdd â rhieni geni (wrth drosglwyddo ar gyfer cyfarfodydd cyswllt ac mewn cyfarfodydd adolygu) o fudd mawr o ran eu helpu i siarad â'r plentyn/plant am y teulu biolegol yn fanylach. Ac, yn bwysicaf oll, mae lleoliadau Sefydlogrwydd Cynnar yn atal yr angen am drosglwyddo o leoliad maeth i leoliad mabwysiadol.
Absenoldeb statudol a thâl Sefydlogrwydd Cynnar Cymru
Mae gofalwyr sydd wedi'u cymeradwyo'n ddeuol fel darpar rieni mabwysiadol a gofalwyr maeth yn gymwys i gael absenoldeb a thâl mabwysiadu statudol o'r dyddiad y mae'r plentyn wedi'i leoli gyda nhw fel gofalwyr maeth. Sylwer nad yw gofalwyr hunangyflogedig yn gymwys am dâl statudol.
Mae Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016, rheoliadau 53-54 a 143-148, yn alinio Cymru â'r darpariaethau sydd ar gael yn Lloegr. Ceir mwy o fanylion am y rheoliadau yma: Tâl ac Absenoldeb Mabwysiadu.
Rhaid i'r plentyn gael ei roi gyda gofalwyr a gymeradwyir yn ddeuol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rhaid i'r awdurdod lleol sy'n gyfrifol am y plentyn ddarparu llythyr i'r gofalwr/gofalwyr sy’n rhoi gwybod am y bwriad i leoli'r plentyn ac yn nodi bod y lleoliad wedi'i wneud â rhiant maeth gyda’r awdurdod lleol, o dan a81(6)(b) DGCLI(C), sydd wedi'i gymeradwyo fel darpar fabwysiadwr. Mae hyn yn cyfateb i dystysgrif baru wrth gadarnhau cymhwysedd y gweithiwr ar gyfer absenoldeb a thâl mabwysiadu statudol.
O'r un dyddiad (dyddiad y llythyr gan yr awdurdod lleol) bydd gan ofalwyr Sefydlogrwydd Cynnar Cymraeg sy'n disgwyl i blentyn gael ei leoli yr hawl i gael seibiant o’r gwaith; ar bum achlysur i'r prif fabwysiadwr (a fydd yn cymryd y rhan fwyaf o'r gwyliau) a dau achlysur i'r mabwysiadwr eilaidd (os yw’n berthnasol), ar gyfer apwyntiadau mabwysiadu (cyfarfodydd â'r awdurdod lleol/ymgynghorydd meddygol ac ati).
Mae gofalwyr Sefydlogrwydd Cynnar Cymru yn gymwys i gael lwfans maethu o'r amser y mae'r plentyn yn cael ei leoli nes bod y plentyn yn cael ei aduno â’r teulu biolegol neu y bydd y lleoliad maeth yn troi’n lleoliad mabwysiadol. Cyfradd y lwfans maethu fydd y gyfradd y mae'r gwasanaeth maethu enwebedig yn talu ei ofalwyr maeth.
Os bydd y plentyn yn cael ei aduno neu ei leoli gydag aelodau’r teulu ehangach, argymhellir talu lwfans mis ychwanegol i'r gofalwyr yn dilyn diwedd y lleoliad. Fodd bynnag, bydd hyn yn dibynnu ar drefniadau'r Awdurdod Lleol.
Os bydd y lleoliad yn troi’n lleoliad mabwysiadol, ni fydd y lwfans maethu yn cael ei dalu mwyach yn sgil penderfyniad Penderfynwr yr Asiantaeth.
Os bydd y lleoliad yn arwain at aduno â’r teulu biolegol, ni fydd hynny'n cael unrhyw effaith ar yr absenoldeb na'r tâl a gafwyd eisoes a gall gofalwyr barhau i gymryd yr absenoldeb sydd eisoes wedi'i archebu, neu gallant ddod â'r absenoldeb i ben wyth wythnos cyn y byddai wedi dod i ben petai'r plentyn wedi aros. Os bydd gofalwr Sefydlogrwydd Cynnar Cymru’n mynd ymlaen i gymryd lleoliad Sefydlogrwydd Cynnar Cymru arall, bydd yn gymwys i gael absenoldeb a thâl ar gyfer y plentyn hwnnw. Mae gofalwr Sefydlogrwydd Cynnar Cymru ar absenoldeb mabwysiadu yn parhau i gronni'r hawl i absenoldeb a thâl mabwysiadu.
Os bydd y lleoliad yn troi’n lleoliad mabwysiadol, ni fydd gan ofalwyr hawl i absenoldeb neu dâl ychwanegol.
Y Camau Nesaf
Nid yw dod yn ofalwr Sefydlogrwydd Cynnar Cymru’n addas i bawb oherwydd bod gan y lleoliad lefel uwch o ansicrwydd na lleoliad mabwysiadol traddodiadol. Yn ei hanfod, gyda Sefydlogrwydd Cynnar Cymru bydd y cynllun gofal terfynol ar gyfer plentyn yn cael ei bennu tra bo'r plentyn yn byw yn eich gofal. Ni ellir rhoi unrhyw sicrwydd byth i chi y bydd y plentyn yn aros yn eich gofal a’r flaenoriaeth bob amser fydd aduno â’r rhieni biolegol neu i'w leoli gydag aelodau estynedig o'r teulu biolegol, dros fabwysiadu. Felly, gofalwyr maeth yw gofalwyr Sefydlogrwydd Cynnar Cymru yn bennaf oll a bydd angen iddyn nhw ddeall cymhlethdodau'r math hwn o leoliad yn llawn.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael eich ystyried ar gyfer Sefydlogrwydd Cynnar Cymru, bydd gofyn i chi fynd ar gwrs hyfforddi hanner diwrnod, ar-lein (gweminar fyw): 'A yw Sefydlogrwydd Cynnar Cymru yn iawn i chi?' a fydd yn edrych yn fanylach ar y rôl. Fel arfer, darperir hyn i ymgeiswyr sydd â diddordeb yn ystod Cam Dau'r broses asesu mabwysiadu.
Ar ddiwedd y cwrs hwnnw, efallai y byddwch yn penderfynu nad yw Sefydlogrwydd Cynnar Cymru’n iawn i chi, ond byddwch chi o leiaf wedi archwilio'r opsiwn. Fodd bynnag, os oes gennych ddiddordeb o hyd ar ôl yr hyfforddiant, bydd angen i chi gymryd rhan mewn cwrs undydd arall a fydd yn eich paratoi ar gyfer bod yn ofalwr maeth. Bydd manylion yr hyfforddiant undydd yn cael eu hesbonio'n fanylach yn ystod y cwrs archwiliadol hanner diwrnod.
Os oes gennych ddiddordeb mewn archwilio Sefydlogrwydd Cynnar Cymru ymhellach, dywedwch wrthym ac, os byddwch yn bwrw ymlaen â mabwysiadu, siaradwch hefyd â'ch gweithiwr cymdeithasol asesu yn ystod Cam Un.
Gwybodaeth Ychwanegol